Ardaloedd Cadwraeth a Chaniatâd Ardaloedd Cadwraeth

Gofynion cynllunio mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i gadw a gwella cymeriad ardaloedd cadwraeth.  Er mwyn helpu i gyflawni hyn, mae nifer o eitemau ychwanegol y mae angen caniatâd cynllunio neu Ganiatâd Ardal Gadwraeth ar eu cyfer, sef:

  • Mae angen Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel adeilad os yw dros 115 metr ciwbig.
  • Mae angen Caniatâd Ardal Gadwraeth ar gyfer dymchwel wal dros 1 metr o uchder sy’n wynebu priffordd.
  • Mae angen caniatâd cynllunio i godi dysgl lloeren ar wal sy’n wynebu’r briffordd.
  • Mae angen Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel adeiladau diwydiannol os dymchwelir dros 50% o gyfaint yr adeilad.
  • Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio i osod dormer, ffenestr do a phaneli ynni solar ar doeau blaen hefyd.

Gan fod y rheolau’n gymhleth, mae’n werth cysylltu ag adrannau Cadwraeth Adeiladu neu Reoli Datblygu Awdurdod y Parc Cenedlaethol cyn gwneud unrhyw waith.  Mae eu manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Caniatâd Ardal Gadwraeth

Pan fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystyried cymeradwyo neu wrthod cais, rhaid iddo roi ystyriaeth arbennig i ddymunoldeb cadw neu wella’r ardal gadwraeth a’r nodweddion hynny sy’n ei gwneud yn arbennig. Felly, pan fyddwch yn cynllunio newidiadau arfaethedig, dylech ystyried y nodweddion sy’n gwneud yr Ardal Gadwraeth yn arbennig hefyd. Mae pethau eraill i’w hystyried yn cynnwys:

  • Gallai fod angen arolwg strwythurol llawn i gyfiawnhau colli adeilad arwyddocaol mewn ardal gadwraeth.
  • Bydd angen cwblhau datganiad byr ar ardal gadwraeth fel rhan o’r broses ddylunio.  Bydd angen i hwn gael ei gynnwys mewn datganiad Dylunio a Mynediad sy’n dangos sut mae’r dyluniad newydd yn cadw neu’n gwella’r ardal gadwraeth.
  • Mae’n annhebygol y caiff Caniatâd Ardal Gadwraeth ei roi ar gyfer dymchwel adeilad nad yw’n cynnwys cynllun amnewid.

Argymhellir eich bod yn cysylltu â Swyddog Cadwraeth Adeiladau neu Swyddog Rheoli Datblygu Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gyntaf i drafod y gwaith rydych yn bwriadu ei wneud.  Byddant yn gallu rhoi cyngor i chi ynghylch p’un a fydd angen Caniatâd Ardal Gadwraeth arnoch ai peidio (yn ogystal ag unrhyw ganiatâd arall a all fod yn berthnasol).  Gallai’r weithred syml hon arbed llawer o amser ac arian i chi. Mae eu manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.

Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae coed yn chwarae rhan arwyddocaol iawn yng nghymeriad Ardal Gadwraeth ac, oherwydd hyn, caiff coed mewn Ardaloedd Cadwraeth eu gwarchod.  Caiff coeden ei gwarchod os yw ei diamedr yn mesur 75mm ar uchder o 1.5m o’r ddaear.  Os yw’n goeden aml-gyff, yna rhaid i bob cyff fod â diamedr o 75mm ar uchder o 1.5m o’r ddaear er mwyn cael ei hystyried yn goeden.

Os ydych am gwympo coeden neu wneud gwaith ar goeden mewn Ardal Gadwraeth, rhaid i chi roi 6 wythnos o rybudd i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.  Gelwir y rhybudd hwn yn un Adran 211 a gellir ei lwytho i lawr oddi ar wefan y Parc Cenedlaethol.  Caiff y chwe wythnos o rybudd ei ddefnyddio i asesu pwysigrwydd y goeden o safbwynt amwynder i’r gymuned ehangach a phriodoldeb gwarchodaeth bellach ar ffurf Gorchymyn Cadw Coed.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am goed mewn Ardaloedd Cadwraeth ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yma.

Dylunio mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae dylunio mewn Ardaloedd Cadwraeth yn bwysig er mwyn cynnal rhinweddau arbennig yr ardal.  Fel arfer, ni fydd dyluniad nad yw’n adlewyrchu cymeriad Ardal Gadwraeth neu adeilad yn dderbyniol.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn dechrau llunio Cymeriad Ardal Gadwraeth ar gyfer pob un o’r pedair Ardal Gadwraeth.  Cymeradwywyd y canllawiau ar gyfer Talgarth ac Aberhonddu a gellir eu llwytho i lawr oddi ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yma.  Mae Cymeriad Ardal Gadwraeth y Gelli yn cael ei pharatoi ar hyn o bryd a bydd gwaith ar Gymeriad Ardal Gadwraeth Crughywel yn dechrau’n nes ymlaen yn 2013.  Bydd y dogfennau hyn yn helpu i roi cyngor ar ddylunio ym mhob Ardal Gadwraeth.

Mae Cylchlythyrau Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhagor o wybodaeth a chyngor ar Ardaloedd Cadwraeth a Chaniatâd Ardaloedd Cadwraeth hefyd: