Oes y Cerrig

Roedd Oes y Cerrig yn gyfnod hir iawn, o tua 2 filiwn blwyddyn yn ôl hyd at tua 5000 blwyddyn yn ôl. Dyma pryd oedd y bobl gyntaf erioed yn byw yn ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac yn dechrau defnyddio eu hadnoddau a gadael eu marc ar y tirwedd. Yn yr adran hon gallwch gael mwy o wybodaeth am Oes y Cerrig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a pha weddillion sydd ar ôl.

Caiff Oes y Cerrig ei rhannu’n dri chyfnod:

Y cyfnod Palaeolithig (Hen Oes y Cerrig) yw cyfnod cynharaf Oes y Cerrig, ac mae’n cynnwys popeth cyn yr Oes yr Iâ diwethaf tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl;

Y cyfnod Mesolithig (Canol Oes y Cerrig) o oddeutu 10,000-4,000 cyn Crist;

Y cyfnod Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) o oddeutu 4,000-2,500 cyn Crist.

Yn ystod Oes y Cerrig, roedd pobl yn gwneud offer ac arfau o gerrig, fel pennau saethau, bwyelli a llafnau.

 

Palaeolithig a Mesolithig

Mae’r archaeoleg gynharaf o Oes y Cerrig sydd i’w gweld o hyd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn deillio o’r cyfnod Mesolithig.  Cyn hynny, roedd y Parc Cenedlaethol wedi’i orchuddio gan lenni iâ a rhewlifoedd. Tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, dechreuodd yr iâ ymdoddi, gwellodd yr hinsawdd ac roedd helwyr-gasglwyr Mesolithig yn byw yn y Parc Cenedlaethol.  Roedd y bobl hyn yn fedrus iawn o ran defnyddio’r adnoddau a oedd ar gael iddynt, a byddent wedi symud ar draws yr uwchdiroedd mewn grwpiau bach fel rhan o’u cylch tymhorol rheolaidd, yn chwilota am fwyd a deunyddiau ac yn hela anifeiliaid.  O’u cymharu â phobl o’r cyfnodau eraill, ni adawodd y bobl Fesolithig lawer o dystiolaeth o’u bywydau ar eu hôl.  Fodd bynnag, un o’r safleoedd Mesolithig pwysig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Waun-Fignen-Felen, lle daeth archaeolegwyr o hyd i offer ac arfau Mesolithig, a lle mae archaeolegwyr yn credu bod llyn bas yn ystod y cyfnod Mesolithig. Mae dyddodion llosg yn awgrymu bod ein cyndadau Mesolithig wedi llosgi’r llystyfiant o gwmpas y llyn, efallai i greu twf newydd ffres i annog anifeiliaid i bori yn yr ardal er mwyn i’r bobl Fesolithig eu hela.

 

Neolithig

Dechreuodd ffermio am y tro cyntaf yn y cyfnod Neolithig ac roedd y bobl yn defnyddio offer syml i dorri a throi’r pridd. Dechreuodd pobl Neolithig fyw bywydau mwy sefydlog, neu led-sefydlog, ond ni wnaethant roi’r gorau i “hela a chasglu” ar unwaith. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gwnaethant ddefnyddio technegau hela a chasglu i ategu eu gweithgareddau ffermio. Yn ystod y cyfnod Neolithig, dechreuodd coetiroedd gael eu rheoli mewn rhai ardaloedd trwy gyfuniad o gwympo, llosgi a phori anifeiliaid.

Mae’r bobl Neolithig wedi gadael mwy o dystiolaeth o’u gweithgareddau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog na phobl flaenorol Oes y Cerrig, oherwydd dyma pryd yr adeiladwyd strwythurau parhaol am y tro cyntaf.  Yn wir, y strwythurau hynaf a wnaed gan ddyn sydd i’w gweld ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw beddrodau siambr Neolithig. Dyma le’r oedd y bobl Neolithig yn claddu’r meirw mewn siambrau wedi’u leinio â cherrig, â chap cerrig arnynt. Roedd y rhain wedi’u hadeiladu’n ofalus o fewn twmpathau mawr o gerrig a phridd o siâp trapesoid hir, a oedd yn aml â sawl mynediad a choridor y tu mewn iddynt, ynghyd â blaengwrt defodol ger y fynedfa. Credir bod y safleoedd hyn yn dyddio o oddeutu 3500 CC a’u bod wedi’u defnyddio dros gyfnod maith. Dyma orffwysfan sawl cenhedlaeth o bobl. Byddai creu beddrod fel hyn wedi cynnwys llawer o waith a symud llawer o gerrig a phridd. Roedd hon yn dasg fawr a oedd yn golygu cryn dipyn o drefn gymdeithasol, felly rhaid eu bod yn bwysig iawn i’r cymunedau â’u hadeiladodd. Adeg eu defnyddio, byddai’r beddrodau siambr wedi bod yn fwy na lleoedd claddu neu fannau defod yn unig. Mae’n bosibl eu bod wedi’u defnyddio fel arwydd statws a marcwyr tir hefyd. Ar ôl oddeutu 3000 CC, cafodd beddrodau siambr eu cau am y tro olaf a daeth eu defnydd i ben.

Mae’r safleoedd Neolithig pwysig hyn yn hen iawn ac maent wedi gweld llawer o newidiadau i’r dirwedd ers iddynt gael eu hadeiladu filoedd lawer o flynyddoedd yn ôl; mae eu golwg wedi newid hefyd, a thrwy dynnu’r cerrig a’r pridd a oedd yn gwneud y twmpath dros filoedd o flynyddoedd, mae’r olion sydd i’w gweld hyd heddiw yn wahanol iawn i sut olwg fyddai wedi bod ar y safleoedd hyn yn ystod y cyfnod Neolithig.

 

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (1996) Prehistoric peoples their life and legacy Pen-y-bont ar Ogwr: D. Brown and Sons Ltd.

Cadw (2005) Caring for Prehistoric Funerary and Ritual Monuments Caerdydd: Cadw

Leighton D (2012) The Western Brecon Beacons. The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr Aberystwyth: Cambrian Printers.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited.