Y Cyfnodau Ôl-ganoloesol a Diwydiannol

Mae gweddillion y cyfnodau ôl-ganoloesol a diwydiannol sydd wedi goroesi ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn glir i bawb eu gweld, o aneddiadau diffaith a ffermydd gwag, ffermydd cwningod a chorlannau, i chwareli, odynau, camlesi a thramffyrdd. Mae’r gweddillion hyn o’n hanes diweddar yn niferus ac efallai eu bod â mwy o gysylltiad atom ni na gweddillion hynafol. Dysgwch fwy am y Bannau Brycheiniog ôl-ganoloesol a’i rôl yn y chwyldro diwydiannol isod.

Y Cyfnod Ôl-ganoloesol

Parhaodd defnydd tymhorol o’r uwchdiroedd ar gyfer pori yn yr haf i’r cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae olion nifer o ffermydd, aneddiadau bach a’u systemau caeau a’u llociau cysylltiedig yn parhau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel Y Graig ger Gilwern, sef olion anheddiad ôl-ganoloesol.  Arweiniodd y boblogaeth ar draws y cyfnod ôl-ganoloesol at alw cynyddol am gig a gwlân, a gwelwyd pwysigrwydd ffermio defaid yn cynyddu, oherwydd datblygiad diwydiannol cyflym a thwf poblogaethau trefol yn ne Cymru.  Daeth ardaloedd uwchdirol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn fwyfwy pwysig ar gyfer ffermio defaid, ac mae llawer o’r cysgodau cerrig sychion, corlannau a chytiau bugeiliaid a adeiladwyd yn ystod y cyfnod hwn i’w gweld yn yr uwchdiroedd hyd heddiw.

 

Nodwedd archaeolegol ôl-ganoloesol arall sy’n weddol gyffredin ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw tomenni clustog.  Tomenni pridd â phennau gwastad yw’r rhain, sy’n aml mewn siâp sigâr, sydd â chyfres o dwnneli mewnol wedi’u leinio â cherrig, a adeiladwyd fel cwningaroedd ar gyfer cwningod a oedd yn bridio.  Yn wahanol i heddiw, roedd cwningod yn brin iawn yng nghefn gwlad am lawer o hanes, ac arweiniodd y galw am eu cig a’u ffwr at fridio cwningod yn datblygu ar draws y cyfnod.  Mewn rhannau o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fel ar y Mynydd Du, crëwyd ffermydd cwningod fel Cefn Cul, lle mae nifer y tomenni clustog a’r ardaloedd mawr a neilltuwyd i ffermio cwningod, yn awgrymu gweithrediadau masnachol ar raddfa fawr.  Mae’n bosibl bod ffermio cwningod wedi profi’n ffordd broffidiol o ddefnyddio tir ymylol.

 

Y Cyfnod Diwydiannol

Saif Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd o berfeddwlad ddiwydiannol cymoedd de Cymru, ond mae llawer o adnoddau naturiol yr ardal ddiwydiannol iawn hon yn ymestyn i’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys mwyn haearn, glo, silica a chalchfaen.  Mae effeithiau’r chwyldro diwydiannol ar dirwedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddwys mewn mannau, gydag olion yn parhau sy’n ymwneud â melino a phrosesu gwlân, chwarela ac echdynnu mwynau, y diwydiant calchfaen, gwneud haearn a gweithgynhyrchu brics tân, papur a phowdwr gwn.

 

Mae tirwedd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’i britho â hen chwareli a weithiwyd i echdynnu deunyddiau crai fel calchfaen, haearnfaen, llechfaen a thywod silica.  Mae cymhlyg mawr o chwareli calchfaen a thywod silica yn parhau ar y Mynydd Du yng ngorllewin y Parc Cenedlaethol, ac amlygodd arolwg o uwchdiroedd y Mynydd Du yn nwyrain y parc gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys ym 1998 dros 120 o chwareli yn y rhan hon o’r Parc Cenedlaethol yn unig.  Mae’r chwareli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar raddfa fach ac fe’u defnyddiwyd yn lleol i ddarparu deunyddiau crai ar gyfer amaeth ac adeiladau.  Mae eraill yn fwy o lawer ac fe’u defnyddiwyd yn fasnachol.

 

 

Roedd calchfaen yn ddeunydd crai hanfodol yn ystod y cyfnod diwydiannol; cafodd ei losgi mewn odynau calch i gynhyrchu calch brwd, a ddefnyddiwyd i gynhyrchu morter calch ar gyfer adeiladau ac mewn amaeth i’w ledaenu ar y caeau a chynhyrchu gwyngalchiad.  Mae llawer o enghreifftiau o odynau calch yn parhau ar draws y Parc Cenedlaethol, ac mae enghreifftiau arbennig o dda i’w gweld ym Mhenwyllt, Bryn Llanelli a llawer o enghreifftiau ar hyd Camlas Aberhonddu i’r Fenni.  Defnyddiwyd calchfaen yn y broses gwneud haearn hefyd, ac roedd y chwareli calchfaen ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cyflenwi gweithfeydd haearn ym Mlaenafon, Nant-y-glo, Hirwaun a Chwm Tawe ar ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif.

 

Ni fyddai unrhyw un o’r diwydiannau a oedd yn ffynnu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi gallu datblygu na goroesi heb y ffyrdd tyrpeg, rheilffyrdd, tramffyrdd a chamlesi a oedd yn cysylltu’r ardaloedd ymylol ac anghysbell hyn â threfi lleol, marchnadoedd yr ardaloedd diwydiannol yn ne Cymru a’r byd ehangach.  Mae darnau mawr o Dramffordd Fforest Brycheiniog, sef rhwydwaith eang o reilffyrdd cynnar lle y tynnwyd wagenni gan dimau o ddynion a cheffylau, i’w gweld hyd heddiw yn uwchdiroedd Fforest Fawr a Chefn Cribarth.  Roedd Tramffordd Fforest Brycheiniog yn cysylltu diwydiant ar draws rhan fawr o’r Parc Cenedlaethol, o Bontsenni yn y gogledd i Ystradgynlais yn y de; roedd ei hadeiladu yn waith mor fawr fel yr aeth yr adeiladwr tramffyrdd uchelgeisiol, John Christie, sef masnachwr cyfoethog o Lundain, yn fethdalwr.  Adeiladwyd ffyrdd tyrpeg ar draws y Parc Cenedlaethol yn y 18fed ganrif.  Roeddent yn bwysig o ran agor a datblygu adnoddau mwynau, a chan mai’r rhain oedd yr unig ffyrdd arwynebog a oedd yn croesi’r mynyddoedd, roeddent yn gysylltiadau hanfodol hefyd.  Roedd llawer o’r prif ffyrdd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ffyrdd tyrpeg yn wreiddiol, sydd wedi newid yn fawr erbyn hyn, ond nid yw’r pontydd a’r tollfeydd a oedd yn gysylltiedig â’r ffyrdd tyrpeg hyn ar un adeg yn bodoli bellach.

 

Rhagor o ddeunyddiau darllen:

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (2004) The Black Mountain – 7000 years of history Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Hankinson R et al. (1998) Black Mountains upland survey Y Trallwng: Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys (heb ei gyhoeddi).

Hughes, S (1990) The Archaeology of an Early Railway System. The Brecon Forest Tramroads Aberystwyth: Cambrian Printers.

Leighton D (2012) The Western Brecon Beacons. The Archaeology of Mynydd Du and Fforest Fawr Aberystwyth: Cambrian Printers.

Leighton D (1997) Mynydd Du and the Fforest Fawr.  The Evolution of an Upland Landscape in South Wales Pen-y-bont ar Ogwr: D. Brown and Sons Ltd.

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (2003) The Archaeology of the Welsh Uplands Aberystwyth: Cambrian Printers Limited.