Henebion Cofrestredig

Caiff Henebion Cofrestredig (HC) warchodaeth gyfreithiol arbennig gan Cadw a Llywodraeth Cymru.  Mae cofrestru yn gwarchod HC rhag newidiadau didrwydded neu heb eu rheoli. Hwn yw’r unig fath o warchodaeth gyfreithiol benodol ar gyfer safleoedd archaeolegol.  Gall HC fodoli fel olion archaeolegol uwchben y ddaear, megis gwrthgloddiau neu adfeilion, neu olion archaeolegol dan y ddaear, neu hyd yn oed cymysgedd o’r ddau.

Nid oes rhaid i’r archaeoleg fod o oes benodol i gael ei gofrestru, ac mae  safleoedd wedi cael eu cofrestru sy’n deillio o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at enghreifftiau o’r Ail Ryfel Byd.  Ceir HC o bob lliw a llun, o garneddau claddu o’r Oes Efydd i ganolfannau diwydiannol mawr.  Dim ond yr enghreifftiau gorau o bob math o heneb sy’n cael eu cofrestru, a chaiff safleoedd eu dewis yn ôl meini prawf fel eu cyflwr, prinder, faint sydd wedi goroesi, bregusrwydd a gwerth y grŵp.  Mae 357 o Henebion Cofrestredig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Nid yw pob safle archaeolegol o bwysigrwydd cenedlaethol wedi’i gofrestru, a chaiff safle archaeolegol ddim ond ei gofrestru os mai hwnnw yw’r dull gorau o warchod y safle.  Nid yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd archaeolegol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi’u dynodi, sy’n golygu nad ydynt wedi’u cofrestru.  Nid yw hyn yn golygu nad yw’r safleoedd yn bwysig, ac mae angen iddynt gael eu deall yn dda a’u rheoli a’u cadw’n ofalus o hyd er mwyn i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol eu mwynhau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Henebion Cofrestredig a sut y cânt eu gwarchod trwy fynd i wefan Cadw.