Archaeoleg

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi etifeddu treftadaeth archeolegol gyfoethog, o Gaerau Oes yr Haearn i weithfeydd diwydiannol, o feddrodau i gestyll canoloesol ac o gylchoedd cerrig i adfeilion yr Ail Ryfel Byd. Mae’r bobl sydd wedi byw yn y dirwedd hon drwy’r oesoedd wedi gweithio a marw yma, ac mae’r olion ffisegol maent wedi’u gadael yn gallu dweud llawer wrthym am eu bywydau.

Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog mae gennym safleoedd archeolegol sy’n bwysig yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae nifer o’r rhain wedi’u cadw mewn cyflwr arbennig o dda, ac wedi goroesi fel nodweddion gweledol sy’n sefyll yn y tirlun ac sy’n cyfrannu at rinweddau arbennig a’r naws am le ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r safleoedd hyn wedi goroesi am gannoedd neu filoedd o flynyddoedd, maent yn adnoddau anadnewyddadwy gwerthfawr ond terfynol sydd angen cael eu rheoli a’u cadw er mwyn sicrhau eu bod yn goroesi fel y gall y genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod eu mwynhau.

Mwy o wybodaeth am archaeoleg Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

Beth yw archaeoleg?

Cofebau Hynafol Rhestredig

Llinell Amser

Gwarchod ein harchaeoleg