Model Dichonoldeb Datblygu (MDD)

Mae’r Awdurdod wedi gweithio ochr yn ochr â’r ymgynghorwyr Cynllunio a Datblygu Trefi, Burrows-Hutchinson Ltd, mewn partneriaeth â chynghorau eraill ar draws y rhanbarth i sefydlu offeryn asesu Model Dichonoldeb Datblygu (MDD). Crëwyd y MDD fel model cynhwysfawr hawdd ei ddefnyddio at ddiben asesu dichonoldeb ariannol cynnig datblygu. Fe’i cynhyrchwyd i weithio gyda Microsoft Excel ar gyfer Office 365, gan redeg ar Microsoft Windows. Ceir manylion pellach manylebau’r MDD yn y Canllaw i Ddefnyddwyr, y gellir ei lawrlwytho isod.

Offeryn arfarnu ‘sy’n benodol i safle’ yw’r MDD. Bydd pob copi o’r model a roddir gan y Awdurdod yn ymwneud â safle datblygu penodol. Gellir ailddefnyddio’r un copi o’r model fodd bynnag i asesu mwy nag un sefyllfa arfaethedig ar gyfer datblygiad y safle penodol.

Cymeradwyir y MDD gan y Awdurdod fel offeryn priodol ar gyfer cyflwyno asesiadau  dichonoldeb gofynnol i gefnogi cyflwyniadau safleoedd ymgeisiol CDLl. Yn ôl Canllawiau Cenedlaethol, gan gynnwys Polisi Cynllunio Cymru, mae’n ofynnol i  “berchenogion/datblygwyr tir gynnal asesiad cychwynnol o ddichonoldeb y safle a rhoi tystiolaeth i ddangos ymarferoldeb ariannol eu safleoedd” (PCC para. 4.2.19).  

Gall y Awdurdod sicrhau bod y MDD ar gael i ddatblygwyr, hyrwyddwyr safleoedd neu unrhyw unigolyn/sefydliad arall at ddiben cynnal arfarniad dichonoldeb ariannol (ADA) o ddatblygiad arfaethedig. Caiff y model ei ryddhau ar sail safle penodol (h.y. caiff ei ‘gau’ i’w ddefnyddio ar y safle penodol hwnnw) yn amodol ar y Awdurdod yn derbyn taliad ffi safonol. Mae’r ffïoedd safonol a fydd yn berthnasol yn cynnwys amser gweinyddol y Awdurdod, amser sydd ei angen i bersonoli a chyflwyno’r model ar gyfer y safle penodol, yn ogystal ag amser swyddogion sy’n angenrheidiol i gynnal adolygiad hollbwysig o’r ADA a gyflwynwyd. Mae strwythur ffïoedd haenog yn berthnasol sy’n seiliedig ar faint a graddfa’r safle. Pennir y ffi gan y Awdurdod, a fydd yn ystyried yr hyn sydd yn eu tyb nhw yn nifer priodol o unedau preswyl y gellid eu cynnwys yn rhesymol ar y safle. Mae’r ymagwedd haenog at ffïoedd yn cydnabod y bydd maint a chwmpas y cynnig datblygu’n dylanwadu ar faint o amser swyddogion fydd ei angen i gynnal adolygiad hollbwysig o’r MDD gorffenedig a gyflwynwyd.

Dyma’r rhestr ffïoedd safonol (mae’r holl daliadau’n destun TAW a gallant newid dros amser):

Safleoedd ag 1-9 uned – £195

Safleoedd â 10-50 uned – £345

Safleoedd â 51 – 100 o unedau – £495

Safleoedd â mwy na 100 o unedau – cytunir ar y gost gyda’r Awdurdod gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod y cynnig

Sylwer bod y ffïoedd uchod yn ymwneud â chyflwyniadau MDD sy’n cefnogi Safleoedd Ymgeisiol y CDLl Gellir defnyddio’r MDD hefyd fel offeryn i roi tystiolaeth o ddichonoldeb ariannol cynnig datblygu ar y cam cais cynllunio. Cysylltwch â’r Awdurdod ar ldp@beacons-npa.gov.uk os hoffech drafod ymhellach y defnydd o’r MDD at y diben hwn, gan gynnwys gwybodaeth am y ffïoedd a fydd yn berthnasol.

Bydd yr adolygiad hollbwysig y bydd y Awdurdod yn ei gynnal o gyflwyniad MDD gorffenedig yn gwirio priodoldeb yr wybodaeth a ddarparwyd gan hyrwyddwr y safle fel rhan o’r arfarniad. Bydd y broses hon hefyd yn sicrhau bod y celloedd yn nhaenlenni’r MDD wedi’u cwblhau’n briodol. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r:

  1. dystiolaeth a ddarparwyd i ategu’r costau a’r gwerthoedd a ddefnyddiwyd yn y MDD a gyflwynwyd yn ddigonol ac yn gymesur;
  2. amserlen awgrymedig ar gyfer y datblygiad yn realistig; ac
  3. MDD yn cyd-fynd â gofynion polisi’r Awdurdod a chyda chanllawiau eraill a/neu ddatganiadau polisi sy’n berthnasol i’r asesiad o ddichonoldeb mewn cyd-destun cynllunio.

Ar ôl cwblhau arolwg hollbwysig, bydd y Awdurdod yn cyhoeddi datganiad syml i hyrwyddwr y safle a fydd yn dangos i ba raddau y mae’n ystyried bod y MDD yn bodloni’r profion a amlinellwyd uchod. Pwysleisir nad yw’r rhestr ffïoedd safonol yn caniatáu ar gyfer unrhyw amser y gall hyrwyddwr safle fod yn dymuno’i dreulio yn trafod canfyddiadau adolygiad hollbwysig cychwynnol y Awdurdod o MDD. Mae’n bosib y bydd ffïoedd ychwanegol yn berthnasol mewn achosion lle bydd angen rhagor o amser swyddog gan fod hyrwyddwr safle wedi trafod ymhellach â’r Awdurdod ynghylch yr arfarniad a gyflwynwyd, a/neu os yw’r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd yn annigonol.

Mae’r Awdurdod yn cydnabod y gall peth o’r wybodaeth y mae ei hangen i ddangos  dichonoldeb gael ei hystyried gan hyrwyddwr y safle’n wybodaeth fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodir yn Llawlyfr CDLl Llywodraeth Cymru, nid yw’r mater hwn o  sensitifrwydd yn ddigon o reswm i osgoi darparu’r dystiolaeth briodol (Llawlyfr y CDLl, para. 5.96). Ni fydd unrhyw MDD a gyflwynir ar gael yn gyhoeddus’ a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y Awdurdod a’r person neu’r sefydliad sydd wedi’i gyflwyno. Prif ddiben y MDD yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu’r safle arfaethedig ar ei gyfer yn debygol o fod yn “ddichonadwy” neu beidio. Lle bydd yn angenrheidiol neu’n briodol i wybodaeth o MDD gael ei ryddhau fel  tystiolaeth, er enghraifft, i gefnogi dyrannu safle penodol yn CDLl y Awdurdod, bydd y Awdurdod yn trafod i ba raddau y gellir rhyddhau’r fath wybodaeth â hyrwyddwr y safle.

Lluniwyd Arweiniad Defnyddiwr manwl (neu lawlyfr cyfarwyddiadau) i ddisgrifio sut mae’r MDD yn gweithio; ac i nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid i’r defnyddiwr ei mewnbynnu yn y celloedd perthnasol. Mae e’ ar gael drwy’r ddolen hon. Mae pob copi o’r MDD hefyd yn cynnwys “Arweiniad Cyflym” ar gyfer y rheini sy’n cynnal asesiad o safle datblygu preswyl yn unig nad yw’n fwy na 5 i 6 erw. Dywedir wrth ddefnyddwyr hefyd fod y model yn cynnwys nodiadau cymorth, sydd wedi’u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain, sy’n atgoffa’r defnyddiwr o’r hyn i’w wneud ar bob taflen.

Hefyd, darperir dolenni i rai fideos ‘How to’ ar sut i ddefnyddio’r model. Darperir y rhain fel ffordd arall o helpu’r defnyddiwr i ddeall sut mae’r MDD yn gweithio mewn arweiniad cam wrth gam.

I gael copi o’r model ar gyfer safle penodol a/neu i drafod materion sy’n ymwneud â’r MDD yn fwy eang, cysylltwch â’r Awdurdod ar ldp@beacons-npa.gov.uk

1. Project Introduction

2. Resi Overview

3. Resi Elements

4. Costs incl Land

5. Appraisal and Cashflow