Adroddiad Monitro Blynyddol

Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer (CDLl) Cynllun Datblygu Lleol

Mae Adran 76 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol fonitro’r ffordd y mae eu Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) mabwysiedig yn cael eu gweithredu, trwy baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Mae’n ofynnol i Adroddiad Monitro Blynyddol gynnwys:
• Adolygiad o’r newidiadau mewn polisïau a chanllawiau cenedlaethol a rhanbarthol a’u goblygiadau i’r Cynlluniau Datblygu Lleol.
• Gwaith monitro’r Cynlluniau Datblygu Lleol wedi’i seilio ar y Fframwaith Monitro Cynlluniau Datblygu Lleol, sy’n cynnwys Dangosyddion Statudol.
• Gwaith Monitro Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)/Arfarniad o Gynaliadwyedd (AG) yn seiliedig ar y Fframwaith Monitro Arfarniad o Gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol (AG/AAS)
• Argymhellion ar weithredu mewn perthynas â pholisïau a’r Cynlluniau Datblygu Lleol cyfan, os oes angen.

Yr Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer y flwyddyn hon yn cael ei gyhoeddi isod

Adroddiad Monitro Blynyddol 2023

Adroddiad Monitro Blynyddol 2022

Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 – 2021

Adroddiad Monitro Blynyddol 2019

Adroddiad Monitro Blynyddol 2018

Adroddiad Monitro Blynyddol 2017

Adroddiad Monitro Blynyddol 2016

Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brecheiniog y Cynlluniau Datblygu Lleol yn ffurfiol ar 17 Rhagfyr 2013. Mae’r cynllun yn ymestyn o 2007 hyd at 2022. Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol cyntaf o 17 Rhagfyr 2013 hyd 31 Mawrth 2015. Cyflwynwyd yr Adroddiad Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cymru ar 29 Hydref 2015.

Cynllun Dablygu Lleol Adroddiad Monitro Blynyddol 2015