Strategaeth a Ffefrir

Ar ôl paratoi Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflawni yr Awdurdod, y cam nesaf yw datblygu’r Strategaeth a Ffefrir.

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cyfeiriad cyffredinol a gynigir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 2018-2033. Gan mai Cynllun newydd yw hwn sy’n disodli’r hen gynllun, mae’n nodi llawer o’r polisïau manwl a geir fel arfer mewn cynllun adnau.

Mae’r Strategaeth a Ffefrir a Diagram Allweddol ar gael ar gyfer ymgynghori. Mae’n gellir gweld yr holl ddogfennau ar ein gwefan ryngweithiol NEWYDD: https://ldp.beacons-npa.gov.uk/?lng=cy

Dylid cyflwyno sylwadau ar y strategaeth yn ysgrifenedig fel a ganlyn. Mae Ffurflen Sylwadau ar gael os ydych chi am ei llenwi:

E-bost: LDP@beacons-npa.gov.uk

Ar-lein: https://ldp.beacons-npa.gov.uk/?lng=cy

Post:      Y Tîm Strategaeth a Pholisi, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas-y- Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, LD3 7HP

Mae crynodeb o’r strategaeth a fersiynau Hawdd i hwyluso dealltwriaetha’r broses ymgysylltu.  Rhaid i’r sylwadau a wneir, fodd bynnag, fod yn sylwadau ar y brif ddogfen.

Cofrestr o’r Safleoedd Ymgeisiol: Nid yw’r dyraniadau tir yn cael eu nodi yn y Strategaeth a Ffefrir ond byddant yn cael eu nodi mewn ‘Cynllun Adneuo’ yn y dyfodol.

I wneud y gwaith o baratoi’r Cynllun hwnnw mae’r Awdurdod wedi gwahodd unrhyw un sydd â budd mewn tir i gyflwyno safleoedd i’w hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y cynllun datblygu lleol.  Yn ogystal, mae’r Awdurdod wedi ystyried a oes unrhyw safleoedd eraill allai fod yn addas ar gyfer eu datblygu.    

Mae asesiad wedi’i wneud i weld pa safleoedd sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth a Ffefrir a pha rai nad ydynt yn cyd-fynd. Gallai safleoedd nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn eu cynnig ar hyn o bryd gael eu cyflwyno yn nes ymlaen yn y prosesau o lunio neu archwilio’r cynllun os bydd yr angen yn codi.  Nawr yw’r amser priodol i wneud sylwadau ar unrhyw safleoedd a glustnodwyd. 

Strategaeth a Ffefrir – Cyflwyno Safle: Bydd angen i’r rhai sy’n cyflwyno newidiadau i’r cynigion ar gyfer safleoedd ymgeisiol sydd eisoes wedi’u cyflwyno (er enghraifft maint y safle) neu sy’n cynnig safleoedd newydd ar gyfer eu hystyried, lenwi ffurflen cyflwyno safle a phrofi eu safle drwy ddefnyddio’r fframwaith Arfarnu Cynaliadwyedd.

Arfarnu Cynaliadwyedd: Mae arfarniad o’r Cynllun wedi cael ei wneud i ddeall effeithiau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd y cynigion a geir yn y ddau Gynllun. 

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd: Mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn gofyn am ymagwedd gam wrth gam, ailadroddol, at asesu cynlluniau sy’n dod i’r amlwg, fel y CDLl. Yn syml, ym mhob cam ffurfiol o’r ymgynghoriad ar y CDLl, mae angen sgrinio wedi’i ddilyn gan asesiad priodol, lle bo angen. Mae’r adroddiad yn manylu ar ddull a chanfyddiadau sgrinio cychwynnol y strategaeth sy’n cael ei ffafrio yn y CDLl. Bydd yn cael ei wneud eto wrth i’r CDLl drafft “Adneuo” llawn gael ei baratoi

Sail Tystiolaeth: Mae sail y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i ategu a chyfiawnhau’r gwaith o ddrafftio’r Cynllun yn cynnwys papurau cefndir a baratowyd gan yr Awdurdod a chyhoeddiadau gan lawer o randdeiliaid allweddol eraill.

Adroddiad Adolygu(hyperlink): Mae’r Adroddiad hwn yn nodi pa faterion oedd angen mynd i’r afael â hwy yn y Cynllun Newydd.  Mae materion ychwanegol hefyd wedi codi ers i’r Adroddiad Adolygu gael ei baratoi.

Sut allwch chi gymryd rhan?

Cyflwynwch eich sylwadau ar y dogfennau a gyhoeddwyd (dolenni cyswllt uchod).  Os byddwch yn cyflwyno sylwadau, bydd eich manylion yn cael eu cofnodi a byddwch yn cael gwybod am ganlyniad yr ymgynghoriad hwn ac am y camau yn y broses o baratoi’r Cynllun yn y dyfodol.

Dylid anfon sylwadau yn ysgrifenedig at Strategaeth a Pholisi, Awdurdod Parc Canedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HP neu gellir e-bostio sylwadau at LDP@beacons-npa.gov.uk cyn 12 hannor dydd, ar dydd Iau y 29ain Awst 2019.

Y Camau nesaf

Noder y bydd yr Awdurdod yn ystyried yr ymatebion a dderbynnir, a bydd disgrifiad cyffredinol o’r modd y mae’r sylwadau hyn wedi effeithio ar bolisïau a chynigion y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei fwydo yn ôl i’r mewn i adroddiad ymgynghori cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol.

Bydd rhestr o’r sylwadau sy’n ymwneud â safle unigol neu awgrymiadau ar gyfer safleoedd newydd hefyd yn cael ei chyhoeddi.

Am y rhesymau hyn, noder os gwelwch yn dda na fydd eich sylwadau nac unrhyw wybodaeth adnabod a gynhwysir yn eich ymateb yn parhau’n gyfrinachol