Safleoedd Ymgeisiol

Yn ddiweddar, gwahoddodd yr Awdurdod berchnogion tir, datblygwyr, ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno ‘Safleoedd Ymgeisiol’ a fydd yn nodi tir i fynd i’r afael ag anghenion datblygu’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys cynigion ar gyfer tai, cyflogaeth, manwerthu a chyfleusterau cymunedol yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl)diwygiedig. Daeth yr alwad gychwynnol hon am safleoedd ymgeisiol i ben ar y 7fed o Ionawr 2019.

Derbyniasom gyfanswm o 117 o safleoedd ac mae’r holl safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd ar gael i’w gweld yn y Cofrestri Safleoedd Ymgeisiol isod. Roedd y safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd ar yr adeg hon yn destun asesiadau lefel uchel i fod o gymorth i lywio’r Strategaeth a Ffefrir. Mae’r Cofrestri yn cynnwys cofnod o’r safleoedd sydd wedi pasio cam cyntaf y broses yn llwyddiannus a’r safleoedd sydd wedi methu.

Cofrestr Cam Cyntaf y Safle Ymgeisiol – Methu

Cofrestr Cam Cyntaf y Safle Ymgeisiol – Pasiwyd

Ychwanegol Cofrestrau Safleoedd Ymgeisiol – Pasiwyd
Ychwanegol Cofrestrau Safleoedd Ymgeisiol – Wedi Methu
Canfyddiadau Asesu Ychwanegol Safleoedd Ymgeisiol

Os hoffech chi weld a chyflwyno sylwadau ar-lein am wefan ymgeisydd ar ein gwefan ryngweithiol NEWYDD, dilynwch y ddolen isod:

https://ldp.beacons-npa.gov.uk/?lng=cy

Mae’r Cofrestri ar gael hefyd i’w gweld ym Mhrif Swyddfa Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambria, Aberhonddu, Powys, LD3 7HP.

(Sylwch, os gwelwch yn dda: Nid yw cynnwys safle ymgeisiol yn y Gofrestr ‘Wedi Pasio’ yn cynrychioli ymrwymiad gan yr Awdurdod fod safle’n addas ar gyfer ei ddatblygu nac y bydd yn cael ei ddwyn ymlaen i’r CDLl Diwygiedig wedi ei Adneuo).

Yng Ngham 2, bydd angen cyflwyno gwybodaeth fanwl ychwanegol ar gyfer y safleoedd hynny a basiodd yn ystod cam cyntaf y broses. Bydd angen cyflwyno’r wybodaeth hon drwy ddefnyddio ffurflen safonedig sydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Bydd hyn yn sicrhau bod y wybodaeth ychwanegol sy’n ofynnol wedi ei darparu er mwyn cynnal asesiad llawn o’r safle. Ni fydd unrhyw safleoedd a gyflwynwyd fel rhan o Gam 1, na fyddant yn cael eu hategu gan ffurflen safonedig yng Ngham 2, yn cael eu hasesu ac ni chânt eu hystyried ar gyfer eu cynnwys yn y CDLl.

Yng Ngham 2, mae yna gyfle hefyd i gyflwyno safleoedd ymgeisiol ychwanegol, cyn belled â bod datblygwyr/tirfeddianwyr yn credu eu bod yn cydymffurfio â’r Strategaeth a Ffefrir. Bydd angen i bob safle ymgeisiol gael ei gyflwyno drwy ddefnyddio ffurflen safonedig (ar gael i’w lawrlwytho isod). Er mwyn cael ei asesu a’i ystyried ar gyfer y CDLl, yn gysylltiedig â safle ymgeisiol rhaid bod ffurflen safonedig wedi ei chwblhau ynghyd â gwybodaeth fanwl. Mae’r ffurflen safonedig yn cynnwys meini prawf i gynorthwyo’r Awdurdod i asesu addasrwydd y safleoedd i’w cynnwys fel dyraniadau yn y CDLl.

Rhaid i gyflwyniadau safleoedd ymgeisiol ateb yr holl gwestiynau a nodir yn y ffurflen safonedig a rhaid i gyflwyniadau gynnwys amserlen ddangosol ar gyfer cyflawni. Darperir nodiadau canllaw fel gwybodaeth bellach yn yr ail gam.

Mae manylion proses gyffredinol safleoedd ymgeisiol yn cael eu hegluro ym Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol sydd ar gael i’w gweld yma – Safleoedd Ymgeisiol Methodoleg Asesu Arfaethedig

Galwad Cychwynnol am Safleoedd – Cam 2

Canllaw Safleoedd Ymgeisiol