Hysbysiad Preifatrwydd Strategaeth a Pholisi

Eich Preifatrwydd

Mae’r Tîm Strategaeth a Pholisi yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn rhyngweithio â ni.  Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd isod yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi a sut yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd.

Pam ein bod yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a’r sail gyfreithiol ar gyfer casglu gwybodaeth

Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, a atgyfnerthwyd gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol lunio Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Mae’r CDLl yn nodi’r polisïau a’r cynigion defnydd tir ar gyfer y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol.  Fe’i defnyddir i lywio datblygiad priodol yn yr ardal ac mae’n darparu’r fframwaith ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio.

Caiff y CDLl ei ddrafftio ar sail tystiolaeth a chesglir rhan o’r dystiolaeth honno drwy ymatebion i ymgynghoriad.  Yna, caiff y CDLl, gan gynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad, eu hystyried yn rhan o’r archwiliad cyhoeddus.

O bryd i’w gilydd rydym hefyd yn drafftio canllawiau cynllunio atodol i bolisïau yn y CDLl.  Mae’r rhain hefyd yn cynnwys ymgynghori â’r cyhoedd cyn eu cymeradwyo.

Ydych chi’n gwybod beth yw gwybodaeth bersonol?

Gall gwybodaeth bersonol fod yn unrhyw beth sy’n adnabod person byw ac yn ymwneud ag ef. Gall hyn gynnwys gwybodaeth sy’n golygu y gellir nodi person wrth ei roi ynghyd â gwybodaeth arall. Er enghraifft, efallai mai hwn fydd eich enw a’ch manylion cyswllt.

Oeddech chi’n gwybod y gallai peth o’ch gwybodaeth bersonol fod yn ‘arbennig’?

Mae rhywfaint o wybodaeth yn ‘arbennig’ ac mae angen mwy o ddiogelwch arni oherwydd ei sensitifrwydd. Yn aml, mae’n wybodaeth na fyddech am i bawb wybod ac mae’n bersonol iawn i chi. Mae hyn yn debygol o gynnwys unrhyw beth a all ddatgelu eich:

  • Rhywioldeb ac iechyd rhywiol
  • Credoau crefyddol neu athronyddol
  • Ethnigrwydd
  • Iechyd corfforol neu feddyliol
  • Aelodaeth o undeb llafur
  • Barn wleidyddol
  • Data genetig/biometrig
  • Hanes troseddol

Pam mae angen eich gwybodaeth bersonol arnom?

Efallai y bydd angen i ni ddefnyddio rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi i:

  • Ddarparu gwasanaethau;
  • Rheoli’r gwasanaethau yr ydyn yn eu darparu i chi;
  • Gwirio ansawdd gwasanaethau; a
  • Helpu gydag ymchwil a chynllunio gwasanaethau newydd.

Mae nifer o resymau cyfreithiol pam fod angen i ni gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Yn gyffredinol rydym yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol lle:

  • byddwch chi, neu eich cynrychiolydd cyfreithiol, wedi rhoi caniatâd
  • eich bod wedi arwyddo contract gyda ni
  • bo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni ein dyletswyddau statudol
  • bo’n ofynnol yn ôl y gyfraith
  • eich bod wedi sicrhau bod eich gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd
  • bo hynny’n angenrheidiol ar gyfer achosion cyfreithiol
  • bo’n angenrheidiol ar gyfer archifo, ymchwil, neu ddibenion ystadegol

Os byddwn yn cael caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl i’w dileu unrhyw bryd. Os ydych am ddileu eich caniatâd, cysylltwch â ldp@beacons-npa.gov.uk a dweud wrthym pa wasanaeth yr ydych yn ei ddefnyddio fel y gallwn ddelio â’ch cais.

Rydyn ni ond yn defnyddio’r hyn sydd ei angen arnom

Lle gallwn, dim ond os bydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaeth neu i fodloni gofyniad y byddwn yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol.

Nid ydym yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un arall.

Yr hyn y gallwch ei wneud â’ch gwybodaeth

Mae’r gyfraith yn rhoi nifer o hawliau i chi reoli pa wybodaeth bersonol sy’n cael ei defnyddio gennym ni a sut mae’n cael ei defnyddio gennym ni.

Gallwch ofyn am gael gweld y wybodaeth sydd gennym amdanoch

Fel arfer, byddem yn disgwyl rhannu’r hyn rydym yn ei gofnodi amdanoch chi gyda chi pryd bynnag y byddwn yn asesu eich anghenion neu’n darparu gwasanaethau i chi.

Gallwch ofyn am newid y wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi

Dylech roi gwybod i ni os ydych yn anghytuno â rhywbeth sydd wedi’i ysgrifennu ar eich ffeil.

Efallai na fyddwn bob amser yn gallu newid na thynnu’r wybodaeth honno ond byddwn yn cywiro gwallau ffeithiol ac efallai’n cynnwys eich sylwadau yn y cofnod i ddangos eich bod yn anghytuno ag ef. 

Gallwch ofyn i ddileu gwybodaeth (yr hawl i gael eich anghofio)

Mewn rhai amgylchiadau gallwch ofyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei dileu, er enghraifft:

  • Lle nad oes angen eich gwybodaeth bersonol mwyach am y rheswm pam y cafodd ei chasglu yn y lle cyntaf
  • Lle rydych wedi tynnu eich caniatâd i ni ddefnyddio eich gwybodaeth (lle nad oes unrhyw reswm cyfreithiol arall i ni ei ddefnyddio)
  • Lle nad oes rheswm cyfreithiol dros ddefnyddio eich gwybodaeth
  • Lle bo dileu’r wybodaeth yn ofyniad cyfreithiol

Pan fydd eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei rhannu ag eraill, byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod y rhai sy’n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn cydymffurfio â’ch cais i ddileu.

Gallwch ofyn i gyfyngu ar yr hyn rydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer

Mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar yr hyn rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer:

  • lle yr ydych wedi nodi gwybodaeth anghywir, ac wedi dweud wrthym amdani
  • lle nad oes gennym reswm cyfreithiol dros ddefnyddio’r wybodaeth honno ond yr ydych am inni gyfyngu’r hyn a ddefnyddiwn ar ei chyfer yn hytrach na dileu’r wybodaeth yn gyfan gwbl

Pan gyfyngir ar wybodaeth, ni ellir ei defnyddio ac eithrio i gadw’r data yn ddiogel a chyda’ch caniatâd i ymdrin â hawliadau cyfreithiol ac i ddiogelu eraill, neu lle y mae er budd cyhoeddus pwysig y DU.

Os rhoddwyd cyfyngiad defnydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn i ni barhau i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol.

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi’r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer unrhyw wasanaeth. Fodd bynnag, os caiff y cais hwn ei gymeradwyo, gallai hynny achosi oedi neu atal y gwasanaeth hwnnw rhag cael ei ddarparu.

Lle bo’n bosibl, byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais, ond efallai y bydd angen i ni ddal neu ddefnyddio gwybodaeth oherwydd mae’n ofynnol i ni yn ôl y gyfraith.

Sut ydym yn diogelu eich gwybodaeth?

Byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau ein bod yn cadw cofnodion amdanoch chi (ar bapur ac yn electronig) mewn ffordd ddiogel, a byddwn ond yn eu darparu i’r rheini sydd â’r hawl i’w gweld. Dyma rai enghreifftiau o’n diogelwch:

  • Amgryptio, sy’n golygu bod gwybodaeth wedi’i chuddio fel nad oes modd ei darllen heb wybodaeth arbennig (megis cyfrinair).
  • Mae rheoli mynediad at systemau a rhwydweithiau yn caniatáu inni atal pobl na chaniateir iddynt weld eich gwybodaeth bersonol rhag cael mynediad iddi.
  • Mae hyfforddi ein staff yn caniatáu inni eu gwneud yn ymwybodol o sut i ymdrin â gwybodaeth a sut a phryd i adrodd pan aiff rhywbeth o’i le.

Pa mor hir ydyn ni’n cadw eich gwybodaeth bersonol?

Mae rheswm cyfreithiol yn aml dros gadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod penodol o amser, rydym yn nodi hyn yn ein hamserlen cadw – am ragor o wybodaeth cysylltwch â ldp@beacons-npa.gov.uk

Ble allaf i gael cyngor?

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau ynghylch sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu data, Paul Funnell, e-bost dpo@beacons-npa.gov.uk ffôn 01874 624437.