Blog Cynllunio

Newyddion Cynllun Datblygu Lleol

Mae’n bosibl eich bod chi’n meddwl am beth sydd wedi digwydd i waith paratoi CDLl 2 – Cynllun Datblygu Lleol Amnewid y Parc Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod cynllunio 2018-2033?

Yn dilyn casglu safbwyntiau am y strategaeth a ffefrir yn 2019, bwriad Awdurdod y Parc Cenedlaethol oedd cytuno ar ddrafft cyflawn y Cynllun Datblygu Lleol yn gynharach yn ystod yr haf.

Ein bwriad ni bellach yw ailymweld â’r strategaeth a ffefrir, er nad yw’n gwbl glir pryd – yn y flwyddyn newydd, gobeithio. Ein cam cyntaf fydd drafftio a cheisio cael safbwyntiau am gytundeb cyflenwi diwygiedig.

Ceir nifer o resymau am hyn:

Mae Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 wedi cael ei osod ger bron y Senedd bellach a bwriedir ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021. Y mae hwn yn gynllun y mae’n rhaid i’r CDLl2 gydymffurfio’n gyffredinol ag ef ac mae’n gosod heriau newydd i’r CDLl2 fynd i’r afael â nhw, nid lleiaf cyflwyno haen ranbarthol newydd o’r ‘Cynlluniau Datblygu Strategol’, sydd i’w paratoi gan Gydbwyllgorau Corfforaethol.  Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn parhau i eiriol yn gryf dros gynnwys Polisi Parc Cenedlaethol yng Nghrymu’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040. Pe byddai’n llwyddiannus, byddai hyn yn golygu y byddai cyd-destun cynllunio ar gyfer datblygu oddi fewn i’r Parciau Cenedlaethol yn cael eu gosod ar lefel genedlaethol, gan adael i’r CDLl2 ganolbwyntio ar ddatblygu datblygiad cymunedol priodol. 

· Cytunwyd ar nodau llesiant ar gyfer Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae cytuno ar fin digwydd o ran Adroddiad Cyflwr y Parc. Rydym yn aros am ddeilliannau trafodaethau gyda rhanddeiliad am Gynllun Rheoli newydd i’r Parc Cenedlaethol, sy’n gosod cyd-destun hanfodol ar gyfer CDLl2. 

· Cafodd tystiolaeth allweddol ei hoedi – rydym yn parhau i aros am gyhoeddiad gan Ystadegau Cymru am ragamcaniad poblogaeth y Parc Cenedlaethol sy’n seiliedig ar 2018 hyd at 2039. Mae’n ddealladwy nad yw hyn yn flaenoriaeth iddynt yn ystod y pandemig.

· Cafodd Safleoedd Ymgeiswyr Allweddol yn Aberhonddu eu tynnu yn ôl, sy’n golygu na fyddant ar gael ar gyfer datblygiad.

Er gwaetha’r oedi, ceir peth cysur o’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi egluro’n ddiweddar y bydd y CDLl cyfredol yn parhau i gael ei gydnabod fel ‘Cynllun Datblygu’ hyd nes iddo gael ei amnewid sy’n golygu y gall barhau i gael ei ddefnyddio fel sail i bennu ceisiadau cynllunio heibio 2022 os yw’n angenrheidiol.

Cafodd y gofyniad i gyhoeddi Adroddiad Monitro Blynyddol ei ohirio am eleni hefyd.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â Chris O’Brian, Uwch Swyddog Cynllunio  christopher.obrien@beacons-npa.gov.uk Ffȏn: 07966522929