Beth yw Cynllun Datblygu?

Mae cynllun datblygu yn destun ysgrifenedig a map sy’n llywio defnyddio a datblygu tir yn y dyfodol.  Caiff ei baratoi trwy ymgynghori â’r cyhoedd a grwpiau a mudiadau sydd â buddiant.

Mae paratoi Cynllun Datblygu yn ofyniad cyfreithiol ar bob Awdurdod Cynllunio Lleol.

Yr enw ar y Cynllun Datblygu cymeradwy presennol ar gyfer y Parc Cenedlaethol yw’r Cynllun Datblygu Unedol.  Cyflwynodd Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 fath newydd o gynllun o’r enw “Cynllun Datblygu Lleol” neu CDLl.  Bydd y dogfennau cyn ymgynghori ar gyfer y CDLl yn cael eu cyhoeddi ar 7 Ionawr 2009.

Beth mae’r Cynllun Datblygu’n ei wneud?

Mae’n cynnig strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu: Mae’r Cynllun yn ystyried effaith hirdymor datblygu ar ein cymunedau a’n tirwedd.  Mae’n cynnwys strategaeth sydd â’r nod o reoli datblygiad tir ac adeiladau mewn ffordd sy’n cyd-fynd â dibenion y Parc Cenedlaethol ac egwyddorion ehangach cynaliadwyedd.

Mae’n cyflwyno Polisïau a Dyraniadau Manwl: Caiff y strategaeth ei chyflawni trwy bolisïau manwl sy’n cyflwyno sut bydd cynigion penodol ar gyfer datblygu’n cael eu trin.  Hefyd, mae’r Cynllun yn dyrannu tir i’w ddatblygu.

Polisi Cynllunio Cenedlaethol: Caiff Cynlluniau Datblygu eu paratoi yng nghyd-destun Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Chynllun Gofodol Cymru.

Pwy sy’n defnyddio’r Cynllun Datblygu? Nid dogfen strategaeth heb orwelion sy’n casglu llwch ar y silff yw cynllun datblygu. Caiff ei ddefnyddio bob dydd:

  • Gan ein swyddogion rheoli datblygu sy’n cymhwyso’r polisïau er mwyn penderfynu p’un ai y dylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.
  • Gan gyflwynwyr ceisiadau cynllunio a’r gymuned, sy’n gallu darllen y cynllun i asesu ymlaen llaw sut bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ymateb i gynnig datblygu.

Beth yw’r berthynas rhwng Cynlluniau Datblygu a Cheisiadau Cynllunio?  Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli beth sydd wedi’i gynnwys yng nghynllun datblygu awdurdod lleol hyd nes bod cais cynllunio yn effeithio arnynt.

Fel arfer, mae cynlluniau datblygu yn sefydlu egwyddor y defnydd sydd yn yr arfaeth ar gyfer darn o dir cyn bod cais cynllunio ar gyfer y datblygiad manwl yn cyrraedd.

Pan fydd cynllun datblygu ar waith, mae’n llawer mwy anodd herio’r angen am unrhyw ddatblygiad tir yn ystod cam y cais cynllunio. Fel arfer, bydd y bobl hynny sy’n dymuno rhoi sylwadau ynghylch cais cynllunio yn gallu cael dylanwad dim ond ar fân fanylion sut mae’r tir yn cael ei ddatblygu, yn hytrach na dylanwadu ar yr egwyddor p’un ai y caiff ei ddatblygu.