Beth yw Gorfodi?

camden-crescent-build-in-progress-580x300

Ac yntau’n Awdurdod Cynllunio ar gyfer ardal y Parc, mae dyletswydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ymchwilio i honiadau am dorri rheolaeth gynllunio. Y Gwasanaeth Gorfodi Cynllunio sy’n mynd i’r afael â’r gwaith ymchwilio hwn.

Er bod gwneud gwaith heb awdurdod ar adeilad rhestredig neu goeden warchodedig yn drosedd, nid yw’n anghyfreithlon nac yn drosedd i weithio ar ddatblygiad neu wneud rhywbeth heb ganiatâd cynllunio priodol. Yn syml, gweithredu heb awdurdod yw hyn ac nid oes trosedd wedi’i chyflawni. Dim ond pan fydd yr Awdurdod wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi ffurfiol neu hysbysiadau tebyg, ac ar ôl rhoi cynnig ar bob llwybr apelio a bod pob terfyn amser ar gyfer cydymffurfio wedi dod i ben, y bydd y person sy’n gyfrifol am y datblygiad neu’r defnydd heb awdurdod yn agored i gael ei erlyn ac, o’i gael yn euog, yn cael cofnod troseddol.

Mae gan y sawl sy’n cael yr hysbysiad gorfodi hawl i apelio. Rhaid parchu hyn parchu a gall hyn achosi tipyn o oedi cyn i’r mater gael ei ddatrys.

Gall yr Awdurdod ddefnyddio’i bwerau gorfodi’n effeithiol dim ond pan fydd digon o dystiolaeth gadarn ar gael i ddangos yn glir bod rheolaeth gynllunio wedi’i thorri.