Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr Awdurdod yn:

  • Cydnabod cwynion cyn pen 5 diwrnod gwaith o’r gŵyn yn dod i law.
  • Asesu a yw’r gŵyn a’r dystiolaeth ategol yn gyfystyr â datblygiad heb awdurdod (wedi’i ddiffinio o dan Adran 55 y Ddeddf) a bod angen ymchwiliad.
  • Os nad oes digon o dystiolaeth i ategu’r gŵyn, bydd yr achwynydd yn cael gwybod na fydd y mater yn cael ei gofrestru hyd nes bod y wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei darparu.
  • Ar ôl cael dogfennaeth ddigonol, bydd y mater yn cael ei gofrestru a’i gategoreiddio yn unol â’r system flaenoriaethu (yn parhau yn y Siarter Gorfodi Cynllunio).
  • Bydd achwynwyr yn cael cyfeirnod yr achos a’r flaenoriaeth a roddwyd i’r achos, yn ogystal ag amcangyfrif o amserlen i gynnal ymweliad cychwynnol â’r safle.
  • Ymchwilio i fanylion y gŵyn
  • Pennu a dorrwyd rheol gynllunio neu adeilad rhestredig.
  • Ceisio cyd-drafod datrysiad gyda’r “troseddwr” os oes modd atal y datblygiad/defnydd neu os oes posibilrwydd y gellid rhoi caniatâd cynllunio.
  • Rhoi gwybod i’r achwynydd na fydd unrhyw gamau yn yr arfaeth, os na ganfyddir bod rheol wedi’i thorri.
  • Os oes rheolau cynllunio wedi’u torri, byddwn yn casglu digon o dystiolaeth gadarn er mwyn bod yn fodlon y gellir cyfiawnhau gweithredu ffurfiol.
  • Ystyried pa mor fuddiol fyddai cymryd camau gorfodi ffurfiol, o ystyried y Cynllun Datblygu a phob ystyriaeth berthnasol arall.
  • Os nad yw’r Awdurdod yn ystyried bod camau gorfodi ffurfiol yn fuddiol, yna bydd yn hysbysu’r achwynydd yn ysgrifenedig o’r rheswm/rhesymau pam nad yw’r Awdurdod yn cymryd unrhyw gamau pellach.

Pam gall camau gorfodi gymryd cymaint o amser?

Esboniwyd llawer o’r rhesymau uchod ond, yn aml, mae’n rhwystredig i’r achwynwyr fod y gweithgarwch sy’n achosi pryder yn parhau er eu bod wedi cysylltu â’r Awdurdod. Dyma rai ffactorau sy’n rhoi’r argraff bod y gweithredu’n digwydd yn araf:

  • casglu tystiolaeth foddhaol, gadarn;
  • parhau i gyd-drafod er mwyn ceisio datrys y mater gyda’r troseddwr heb fynd ar drywydd camau ffurfiol;
  • ystyried cais sy’n anelu at gywiro’r mater; ac
  • aros am benderfyniad apêl yn erbyn hysbysiadau ffurfiol.