Siarter Gorfodi Cynllunio ac Arweiniad Polisi’r Llywodraeth

Dylid darllen y siarter hon mewn cysylltiad â Pholisi Llywodraeth Cymru fel y’i nodir yn adran 3.6 o Bolisi Cynllunio Cymru a’r canllawiau polisi cenedlaethol yn Adran 14 ac Atodiad Adran 14 o’r Canllaw Rheoli Datblygiad a Chylchlythyr 24/97 (Gorfodi rheolaeth gynllunio: darpariaethau deddfwriaethol a gofynion gweithdrefnol), a fydd yn cael eu hymgorffori maes o law yn Atodiad Adran 14 ‘Offer Gorfodi’.

Mae rheoliadau gorfodi Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn bŵer diamod y gellir ei ddefnyddio dim ond pan fydd gwneud hynny yn briodol, a dylai unrhyw weithredu fod yn gymesur â difrifoldeb y tor-rheolaeth cynllunio.  Mae Adran 73A Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990/1 (fel y’i diwygiwyd) yn cynnwys darpariaeth benodol sef bod modd rhoi caniatâd cynllunio er mwyn unioni datblygiad a wnaed eisoes.  Mae Arweiniad Polisi’r Llywodraeth yn dweud yn glir na ddylid cymryd camau gorfodi dim ond i wneud yn iawn am absenoldeb caniatâd cynllunio mewn achosion lle bo datblygiad fel arall yn dderbyniol o safbwynt ei rinweddau cynllunio.

I gael rhagor o wybodaeth am y Siarter Gorfodi Cynllunio ac Arweiniad Polisi arall y Llywodraeth, cliciwch ar un o’r dolenni canlynol:

Polisi Cynllunio Cymru