Pam defnyddio 1APP?

Problemau presennol

Mae’r ffurflenni ceisiadau cynllunio amrywiol sy’n cael eu cynhyrchu gan Awdurdodau Cynllunio Lleol yn amrywio o safbwynt y cwestiynau, yr arddull a’r drefn, a hefyd faint o gopïau o ffurflen gais y mae angen eu cyflwyno.

Mae hyn yn creu anawsterau i ymgeiswyr, yn enwedig gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio, sy’n cael eu gorfodi i wastraffu amser ac ymdrech yn llenwi ceisiadau lluosog i’w cyflwyno i Awdurdodau Cynllunio Lleol gwahanol. Mae’r diffyg safoni a’r dryswch ynghylch gofynion unigol yn arwain yn aml at gyflwyniadau annilys, sydd yn ei dro’n creu baich gweinyddol ychwanegol i’r ymgeisydd ac oedi o ran prosesu’r cais.

Manteision

Trwy gael ffurflen gais safonol ar gyfer ceisiadau cynllunio i bob Awdurdod Cynllunio Lleol, bydd gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio a phobl sy’n gwneud ceisiadau yn sylwi bod cwblhau a chyflwyno ceisiadau yn gynt ac yn haws.

Bydd y ffurflen ar-lein yn helpu i bennu’r caniatâd cynllunio y mae ei angen. Bydd hyn yn lleihau’r perygl y bydd cais yn cael ei gyflwyno ar y ffurflen anghywir yn sylweddol ac felly mae’n cynyddu’r posibilrwydd y bydd cais dilys yn cael ei gyflwyno’r tro cyntaf. Bydd hyn o fudd i’r ymgeisydd ac i staff yr Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n prosesu’r cais, gyda phenderfyniad cynt yn y pen draw o ganlyniad.

Bydd gweithwyr proffesiynol ym maes cynllunio yn gallu ymgyfarwyddo ag un ffurflen ar gyfer eu holl geisiadau, a fydd (os ydynt yn ei chyflwyno’n electronig) yn cadw’u holl wybodaeth safonol (cyfeiriad a manylion cyswllt ac ati), ac yn lleihau’r amser y maent yn ei dreulio’n cwblhau cais.

Bydd ymgeiswyr yn elwa ar gael arweiniad cenedlaethol, clir gyda system gynllunio fwy tryloyw o ganlyniad, ac mae’n bosibl y byddant yn arbed arian gan mai dim ond un set o ddogfennau y bydd angen iddynt ei chyflwyno.

Mae modd gweld gwybodaeth fanwl am y system gynllunio a’r broses ymgeisio ar y Porth Cynllunio.

Ble i fynd i gael mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth am 1APP, cysylltwch â desg wasanaeth y Porth Cynllunio ar 0117 372 8200 neu trwy neges e-bost yn support@planningportal.gsi.gov.uk.