Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith ar eich cartref, fel estyniad, garej domestig, gosod ffenestr yn y to ac ati, mae’n bosib y bydd angen cais cynllunio arnoch i wneud yr addasiadau hyn. Serch hynny, nid oes angen caniatâd cynllunio ar bob math o ddatblygiad, a gallwch wneud y mathau hyn o waith o dan eich ‘Hawliau Datblygu a Ganiateir’.
Fodd bynnag, mae’n bosib bod cais cynllunio blaenorol wedi tynnu eich Hawliau Datblygu a Ganiateir oddi ar eich eiddo. Os felly, bydd angen i ddeilydd y tŷ gyflwyno cais cynllunio am unrhyw addasiadau ac ychwanegiadau i’ch eiddo.
Daeth newidiadau i rym ar 30 Medi 2013 ledled Cymru sy’n nodi pa fath o ddatblygiadau fyddai angen cais cynllunio o fewn cwrtil tŷ annedd (hynny yw, tir sy’n gysylltiedig ag eiddo sy’n ffurfio darn amgaeedig).
Gallai’r newidiadau hyn effeithio ar p’un ai a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ar gyfer gwneud gwaith o fewn cwrtil eich tŷ, megis estyniadau preswyl, adeiladau allanol yn yr ardd, gwaith ar y to, gosod llawr caled o amgylch y tŷ, goleuadau yn y to a llawer o fathau eraill o ddatblygiadau i’ch cartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi arweiniad i egluro’r newidiadau, er mwyn eich cynorthwyo i ddeall a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ai peidio ar gyfer unrhyw ddatblygiad yr hoffech ei wneud. Gallwch weld copi o’r arweiniad hwn drwy ddilyn y ddolen isod. Trowch at yr adran ar ardaloedd gwarchodedig oherwydd dyma’r adran sy’n berthnasol i ddatblygiadau mewn Parc Cenedlaethol.
Llywodraeth Cymru – Hawliau Datblygu a Ganiateir i Ddeiliaid Tai
Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i ddeilydd tŷ, gallwch gysylltu â’r Awdurdod drwy anfon e-bost at planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk neu ffonio 01874 624437 i wneud apwyntiad i weld un o’n Swyddogion Cynllunio yn y Gymhorthfa Cynllunio. Cynhelir cymorthfeydd cynllunio bob dydd Mercher yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu. Ceir rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod: