Safleoedd Cadwraeth Natur Pwysig a Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol

Safleoedd Cadwraeth Natur Pwysig (SINCs)

Mae’r rhain yn safleoedd lleol pwysig sydd â gwerth bioamrywiaeth uchel oherwydd y cynefinoedd a rhywogaethau sy’n bresennol. Er nad ydyn nhw wedi’u hamddiffyn yn gyfreithiol, bydd y safleoedd hyn â gwerth cadwraeth natur sylweddol a rôl bwysig i’w chwarae er mwyn cyfarfod targedau bioamrywiaeth a chyfrannu at fuddion lefel y dirwedd i ffawna a fflora gwyllt.

Mae Polisi 5 yn y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu am ystyriaeth ac amddiffyniad y safleoedd hyn yn y broses cynllunio.

 

Safleoedd Natur Lleol (LWSs)

Mae’r rhain yn Safleoedd Cadwraeth Natur Pwysig lle mae perchennog y tir yn gweithredu rheolaeth gadarnhaol ar gyfer cadwraeth natur.