Cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth – Cynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth

Beth yw’r cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, rhaid i Lywodraeth Cymru lunio rhestrau o’r cynefinoedd a’r rhywogaethau sydd o bwysigrwydd pennaf i gadwraeth yng Nghymru. Gelwir y rhestrau hyn yn rhestrau Adran 42. Mae’r rhestrau’n cynnwys yr holl gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU sy’n berthnasol i Gymru.

Sut ydyn ni’n eu gwarchod?

Mae gan y cynefinoedd hyn warchodaeth gyfreithiol sy’n ymestyn i gyrff cyhoeddus, sy’n gorfod rhoi ystyriaeth briodol iddynt wrth gyflawni eu swyddogaethau. Mae Polisïau 6 a 7 yn ein Cynllun Datblygu Lleol yn sicrhau bod y cynefinoedd a’r rhywogaethau hyn yn cael eu hystyried yn llawn ym mhroses gynllunio’r Parc Cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau’r Cynllun Gweithredu ar Fioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol, a sut cânt eu gwarchod yn y broses gynllunio, gweler Canllawiau Cynllunio Cymeradwy yr Awdurdod ar Fioamrywiaeth.

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn cydlynu camau gweithredu ar fioamrywiaeth yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â hyrwyddo digwyddiadau a’r newyddion diweddaraf ym maes bioamrywiaeth. Ceir hefyd ragor o wybodaeth ar wefan UKBAP.