Bywyd Gwyllt a Chynllunio

Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyfrifoldeb i amddiffyn, i ddiogelu ac i gyfoethogi bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol wrth ystyried cynigion datblygu. Gall datblygu gael effaith niweidiol ar rywogaethau a chynefinoedd sydd o dan fygythiad ac mae’n anghenrheidiol ystyried yr effeithiau posibl ar ecoleg safleoedd datblygu. Os oes yna bosibilrwydd o effeithiau niweidiol, efallai y bydd angen cynnwys mesurau lliniaru a gwneud iawn.

Mae deddfwriaeth Ewrop a’r Deyrnas Unedig yn diogelu rhai rhywogaethau a safleoedd; mae yna hefyd bolisi cynllunio a chanllawiau lleol a chenedlaethol ar ddiogelu bywyd gwyllt. Mae lefel y warchodaeth yn amrywio rhwng rhywogaethau a chynefinoedd, ond rhoddir ystyriaeth berthnasol ym mhob rhan o’r broses cynllunio a datblygu. Mae tabl sy’n crynhoi deddfwriaeth bywyd gwyllt, y polisïau a’r canllawiau i’w weld yma.

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r ymgynghorai statudol ar geisiadau cynllunio sy’n effeithio ar safleoedd dynodedig a rhywogaethau a warchodir. Mae mwy o wybodaeth am eu gwaith ar gael yma.

Mae’n bwysig ystyried materion bywyd gwyllt ac arolygon comisiynu [yn ôl y gofyn] yn gynnar yn y broses gynllunio er mwyn osgoi oedi diangen i’ch cais cynllunio. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cynhyrchu Canllawiau Cynllunio Atodol – Bioamrywiaeth a Datblygiad. Mae’n syniad da i chi daro golwg ar y canllawiau hyn cyn cyflwyno cais cynllunio; ceir canllaw llawn a fersiynau cryno at ddefnydd deiliaid tai a datblygwyr.

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth Bioamrywiaeth ar gyfer Powys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (BIS) yn adnodd pwysig i weld cofnodion o rywogaethau a chynefinoedd ar safleoedd datblygu ac yn y cyffiniau.

Os bydd eich cais yn cael ei ystyried yn dderbyniol ym mhob ffordd arall, mae’n debygol y bydd angen ichi ddarparu rhyw fath o welliant/welliannau o ran bioamrywiaeth. Mae’n ofynnol arnom i geisio’r gwelliannau hyn wrth inni brosesu ein dyletswyddau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chynllunio. Ceir awgrymiadau ar fesurau bioamrywiaeth y gellid eu hymgorffori yn y Mesurau Gwella Bioamrywiaeth. Byddai cyflwyno’r Ffurflen Wybodaeth am Wella Bioamrywiaeth gyda’ch cais o gryn gymorth i’r broses hon.

Am fwy o wybodaeth, mae modd cysylltu â’r Ecolegydd Cynllunio drwy ymholiadau cynllunio.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith am wybodaeth benodol ynghylch pynciau allweddol.