Roedd y prosiect hwn yn annog busnesau lleol i gydweithio mewn grwpiau (neu ‘glystyrau’) a’u cefnogi i wella twristiaeth yn y Parc Cenedlaethol i’w wneud ei wneud yn lle gwell i fyw ac i ymweld ag ef.
Roedd yna naw partner Collabor8 ar draws Ewrop. Roedd 50% o gyllid y prosiect yn cael ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd, drwy eu Cynllun ERDF Interreg IVB Gogledd Orllewin Ewrop, i gryfhau cymunedau ardaloedd gwledig Gogledd Orllewin Ewrop a helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol a achoswyd gan newidiadau demograffig. Roedd y prosiect wedi helpu i greu cymdeithas fwy gydlynol wrth i bobl o wahanol wledydd gydweithio ar faterion cyffredin sy’n effeithio bywydau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd Collabor8 Bannau Brycheiniog hefyd ei ariannu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llywodraeth Cymru.
Y naw partner COLLABOR8, wedi’u lleoli yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon, Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg, oedd:
• South Kerry Development Partnership Ltd, Iwerddon
(Partner Arweiniol)
• Dienst Landelijk Gebied (DLG), onderdeel Nationaal
projectbureau Nieuwe Hollandsche Waterlinie, Yr Iseldiroedd
• Stichting Veemarktwartier, Tilburg, Yr Iseldiroedd
• Vlaamse Landmaatschappij, Gwlad Belg
• Tourisme Oest-Vlaanderen vzw, Gwlad Belg
• Westcountry Rivers Trust, Y Deyrnas Unedig
• South Downs Joint Committee, Y Deyrnas Unedig
• Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Y Deyrnas Unedig
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Y Deyrnas Unedig