Rhesymeg dros Gau

Rhesymeg dros Gau mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Mewn ymateb i ymholiadau y mae’r Awdurdod yn eu cael ynghylch y penderfyniad a gyflwynwyd i gau lleoliadau fel rhan o’r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â lledaeniad Coronafeirws, mae’r datganiad hwn yn ceisio esbonio’r rhesymeg dros gau.

Rydym wedi ceisio cau’r lleoliadau (copaon mynyddoedd, cribau, rhannau prydferth o’r Parc) sy’n denu ymwelwyr ynghyd â’r prif ffyrdd o gael mynediad i’r lleoliadau hyn, yn ogystal â’r prif feysydd parcio sy’n eu gwasanaethu. Y nod yw cyfleu’r neges ein bod ar gau i ymwelwyr ac na ddylai pobl fod yn defnyddio’u ceir i fwynhau taith gerdded yng nghefn gwlad. Er bod yr un rhesymeg wedi’i defnyddio ym mhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru, mae ei gweithredu ar lawr gwlad yn wahanol oherwydd ein daearyddiaeth wahanol. Ym Mannau Brycheiniog, mae’r ardaloedd sydd ar gau yn eithaf mawr oherwydd bod llawer ohonynt hefyd yn dir comin a thir mynediad CGHT.  Nid yw’n hawdd rheoleiddio neu gyfyngu mynediad i rai rhannau ac nid eraill oherwydd eu natur agored iawn (ni allwn ffensio rhannau rhag mynediad er enghraifft).  Ni allwn ychwaith wahaniaethu’n hawdd rhwng trigolion lleol ac ymwelwyr na rhagweld y galw mewn lleoliadau penodol ar ddiwrnodau penodol.

Mae’r rhan fwyaf o rwydwaith Hawliau Tramwy’r iseldir yn dal ar agor i’w ddefnyddio’n lleol, a hyd yma nid yw hyn yn arwain at broblemau o ran tagfeydd neu bobl yn osgoi’r rheol dau fetr. Yn wir, mae’n ymddangos bod y trigolion yn addasu’n dda i ddefnyddio llwybrau na fyddent fel arfer yn eu defnyddio. Mae’r dull hwn yn gwbl gyson â’r sylwadau answyddogol ond synhwyrol gan y Llywodraeth bod taith gerdded o tuag awr o garreg eich drws bob dydd yn ymarfer corff rhesymol a digonol i’r rhan fwyaf o bobl.  Mae’n rhaid i bob un ohonom gwtogi ein gweithgareddau hamdden arferol a dylem i gyd fod yn gwneud ein rhan i gefnogi’r cyfyngiadau ar symud sydd mewn grym.

Amcan y Llywodraeth yw atal lledaeniad y feirws o gartref i gartref, ac ar hyn o bryd rydym o’r farn ei bod yn rhy gynnar i ystyried llacio’r mesurau sydd bellach mewn grym o ran cau lleoliadau.  Yn sgil y rheoliadau diwygiedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ac o ystyried y canllawiau clir gan Glandŵr Cymru, rydym wedi cadw Llwybr Tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn agored ar gyfer defnydd cyfyngedig yn unig.

Rydym yn asesu’r mesurau cau bob wythnos ond yn bwriadu eu hadolygu’n ffurfiol ar y pwynt adolygu cyntaf (Ebrill 15) mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Byddem yn croesawu sylwadau gan drigolion lleol ynghylch unrhyw anawsterau penodol y mae’r mesurau cau presennol yn eu hachosi o ran gallu gwneud ymarfer corff rhesymol bob dydd o’r cartref.

Fel Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gyfrifol am hyrwyddo gwarchod a mwynhau ein tirwedd ddynodedig, nid ydym wedi penderfynu cau ein hardaloedd heb ystyriaeth ofalus. Mae hyn wedi bod yn destun proses adolygu fewnol ar draws yr Awdurdod a rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r rheoliadau a’u hamcanion.

Wrth sefydlu’r rhesymeg hon, rydym yn gorfod ystyried y canlynol:

  • Mae’r sefyllfa’n ddifrifol ac mae nifer y marwolaethau sy’n cael eu cofnodi’n ddyddiol yn y DU yn parhau i godi ar raddfa frawychus. Yn y cyd-destun hwn, mae’n bwysig rheoleiddio lleoliadau lle gallai pobl fynd i wneud ymarfer corff.
  • Mae’r wyddoniaeth sy’n sail i’r canllawiau yn datblygu’n barhaus (ceir tystiolaeth bellach, er enghraifft, nad yw cadw pellter cymdeithasol o 2m yn ddigon o bosibl).
  • Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i’w chyflawni mewn argyfwng cenedlaethol.
  • Yr angen i gadw’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ar gyfer defnydd hanfodol gan drigolion lleol.
  • Mae’n rhaid i ni gydbwyso galwadau i lacio’r mesurau cau â galwadau am gyfyngiadau tynnach.
  • Rhaid ystyried bod teithio mewn cerbydau i wneud ymarfer corff yn fath o deithio nad yw’n hanfodol.
  • Fel arfer, ceir mynediad i ardaloedd ucheldirol drwy yrru i fan cychwyn yng nghefn gwlad o leoliadau naill ai y tu mewn neu’r tu allan i’r Parc Cenedlaethol ac mae’r mannau parcio hyn yn debygol o arwain at gynulliadau o fwy na dau berson, ac ni ellir rheoli hyn heb gau lleoliadau.
  • Rydym yn ystyried buddiannau cymunedau lleol yn gyffredinol oherwydd y cymunedau lleol sy’n cael eu peryglu gan bobl yn ymweld â’r ardaloedd mwyaf poblogaidd.
  • Mae caffis, tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden ac ati ar gau a derbyniwyd y penderfyniad i wneud hyn. Nid oes gwahaniaeth rhwng hyn a mynediad i gefn gwlad.
  • Mae’r Parc yma i bawb ac mae’n cael ei reoli ar ran pawb.
  • Ein canfyddiadau hyd yn hyn yw bod y rheoliadau’n gweithio; mae’r mannau poblogaidd yn dawel. Ychydig iawn o bobl sydd yn unman ar y Gamlas, sy’n parhau i fod ar agor, neu o gwmpas Aberhonddu, er enghraifft (yr ardal fwyaf poblog).  Mae’r canfyddiadau hyn yn ogystal ag adborth gan y gymuned yn dangos bod pobl yn gallu addasu.