Coronavirus (COVID-19)

DIWEDDARU 07.08.2020

Mae Ardal y Rhaeadrau’n denu nifer fawr o ymwelwyr ar hyn o bryd ac mae’r meysydd parcio’n aml wedi llenwi erbyn canol dydd. Dylech fod yn ymwybodol eich bod yn debygol o gael dirwy os fyddwch yn parcio’n anghyfreithlon. Parciwch mewn meysydd parcio dynodedig yn unig ac nid ar ymyl y ffordd neu ar y palmant. Gwiriwch pa mor llawn yw’r meysydd parcio drwy ddefnyddio’n tudalen parcio ceir cyn i chi benderfynu ymweld: https://carpark.beacons-npa.gov.uk

Mae’n anodd ymbellhau’n gymdeithasol pan fo llawer o bobl yn yr ardal felly os yw’n teimlo fel petai gormod o bobl yno, yna mae gormod o bobl yno. Mae’n anodd cadw’ch pellter a chynnal ymbellhau cymdeithasol ar y llwybrau cul o gwmpas y sgydiau. Ceir 520 milltir sgwâr yn y Parc Cenedlaethol felly beth am ymweld ag un o’r llefydd llai poblog a darganfod eich hoff le newydd.

DIWEDDARU 06.07.2020

 Yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener bod y cyfyngiadau ar deithio yng Nghymru’n cael eu codi, rydyn ni wedi ail agor y mannau mynediad a’r llwybrau cyhoeddus oedd wedi cau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at roi croeso cynnes Cymreig i ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond fe hoffen ni ofyn i ymwelwyr gofio am gais y Prif Weinidog i ymweld â Chymru’n ddiogel.   “Rydyn ni’n gofyn i chi gynllunio’ch taith.  Er bod y llwybrau cyhoeddus a’r mannau parcio ar agor, mae llawer o’r cyfleusterau sy’n gysylltiedig â nhw’n dal ar gau.  Cofiwch, os ydych chi’n teimlo fod gormod o bobl yno, mae yna ormod o bobl yno. Byddwch â chynllun ‘B’ yn barod ar gyfer eich taith.”

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn yn benodol i chi “Fod yn garedig wrth drigolion lleol ac wrth eich cyd ymwelwyr trwy barcio’n ystyriol, peidio â gadael dim ar eich ôl a dilyn y côd cefn gwlad newydd.”  

Meddai Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Julian Atkins “Rydyn ni’n gwybod cymaint o hiraeth oedd gan bawb am Fannau Brycheiniog ac am fwynhau ein Parc Cenedlaethol.  Gyda’n cymunedau, rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu wrth i chi ymweld â Chymru’n ddiogel.  Cofiwch barchu’r bobl, amddiffyn yr amgylchedd naturiol a mwynhau’r Parc Cenedlaethol yn ddiogel.”

DIWEDDARU 24.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiadau gan Brif Weinidog Cymru ddydd Gwener 19 Mehefin 2020, mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol ar agor erbyn hyn ac yn ddiogel ar gyfer defnydd lleol (o fewn 5 milltir o’ch cartref). Mae’r safleoedd sy’n dal ar gau, wedi’u cau i gadw pobl yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i’w hail agor yn  unol ag arweiniad ac amserlen Llywodraeth Cymru. Mae’r sector mynediad i’r cefn gwlad hefyd yn defnyddio arweiniad pellach gan Cyfoeth Naturiol Cymru:  http://sciencesearch.defra.gov.uk/Default.aspx?Menu=Menu&Module=More&Location=None&Completed=0&ProjectID=18909

Y safleoedd sydd dal ar gau yw:

  • Canol y Bannau gan gynnwys Pen y Fan a’r meysydd parcio yn: Craig-y-Fro, Canolfan y Bannau, Pont ar Daf, Blaen y Glyn Uchaf a’r Neuadd
  • Gwlad y Sgydau a’r holl feysydd parcio cysylltiedig
  • Llyn y Fan Fach a’i faes parcio cysylltiedig
  • Fan Fawr, Fan Frynich, Craig Cerrig Gleisiad a Dwyrain y Fforest Fawr
  • Castell Carreg Cennen a’r coetir
  • Parc Gwledig Craig-y-nos.
  • Cuddfan adar Llangasty (cofiwch: mae’r llwybr troed ar hyd y llyn ar agor)
  • Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a Chomin Mynydd Illtud
  • Canolfan Ymwelwyr Garwnant
  • Maes parcio Fforest Cwm Giedd
  • Meysydd parcio Grwyne Fawr yng nghoedwig y  Mynydd Du (Mynyddoedd Duon yn nwyrain y Parc)

Cofiwch ddilyn rheolau pellter cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Cadwch yn Sâff a Chyda’n Gilydd byddwn yn #DiogeluCymru.

DIWEDDARU 19.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw am fwriad Llywodraeth Cymru i lacio cyfyngiadau teithio ar 6 Gorffennaf (os yw’r amodau’n caniatáu), byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i adolygu’r rhestr gau gyfredol i baratoi ar gyfer cyhoeddiad ar 6 Gorffennaf, yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Am y tro, Arhoswch yn lleol a #ddiogelwchCymru

DIWEDDARU 09.06.2020

Yn unol â chyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru, ac mewn ymateb i ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch ymarfer corff a theithio o fewn 5 milltir o’ch cartref, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi adolygu’r rhestr a wnaeth fis Mawrth o’r mannau sydd wedi cau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (2020).  Wrth gynnal yr adolygiad, rydym wedi derbyn sylwadau gan yr Heddlu ac wedi cyfarfod â’n partneriaid allweddol i ddod i ddeall eu safbwyntiau.  Bydd rhestr wedi’i diweddaru o’r mannau sydd wedi cau ar ein gwefan ddydd Mawrth 9 Mehefin.  Cofiwch fod y rhan fwyaf o’r rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus yn y Parc Cenedlaethol yn dal ar agor i chi eu cerdded yn lleol, o ddrws eich tŷ.  Byddwn yn dal i adolygu’r newidiadau bychan hyn i’r cyfyngiadau clo rhag ofn y bydd yna gymaint o bobl yn heidio ar rai safleoedd nes cynyddu’r risg o drosglwyddo Covid-19.  Golyga cyfyngiadau symud Covid-19 bod y Parc Cenedlaethol yn dal ar gau i ymwelwyr a bod y safleoedd a’r adnoddau mwyaf poblogaidd hefyd yn dal ar gau.  Arhoswch yn Lleol #DiogeluCymru
Tir mynediad/llwybrau cyhoeddus ar gau
Rhesymeg y Cau

DIWEDDARU 03.06.2020

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Gwener 29 Mai bod cyfyngiadau symud penodol yng Nghymru yn cael eu llacio ychydig ac ar ôl ystyried arweiniad penodol i’r sector gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Awdurdod wedi bod yn adolygu sut y dylid symud ymlaen.   Rydym ni’n defnyddio canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru i gynllunio sut i symud trwy gyfnodau’r system goleuadau traffig i lacio’r cyfyngiadau, mae hynny’n ein galluogi i weithredu yn y ffordd orau a mwyaf cyson posibl.  Ein blaenoriaeth bennaf un oedd, ac yw, amddiffyn pobl, ein cymunedau lleol a’r gwasanaethau iechyd.

Yn ystod yr wythnos nesaf fe fyddwn yn:

·        Gorffen ein hadolygiad o’r safleoedd hynny yn y Parc Cenedlaethol sydd ar gau ar hyn o bryd yn unol â chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (2020). 

·        Byddwn yn cyfarfod gyda phartneriaid i gydlynu a chytuno ar ail-agor rhai safleoedd yn unol â system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru

·       Paratoi i ail agor rhai ardaloedd yn ystod yr wythnos yn cychwyn ar 8 Mehefin gyda chytundeb partneriaid (mae diweddariadau ar https://www.bannaubrycheiniog.org/coronavirus-covid-19-2/tir-mynediad-llwybrau-cyhoeddus-ar-gau/).

·        Cychwyn ar y broses y mae angen ei dilyn i baratoi ar gyfer ail agor, yn y man, y meysydd parcio a’r toiledau ym mherchnogaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys cynnal profion legionella a gosod systemau diogelwch tra’n disgwyl am adolygiad Llywodraeth Cymru ar 18 Mehefin.  

 Rydym wedi bod, ac yn dal, i weithio y tu ôl i’r llenni gyda phartneriaid ar lefel genedlaethol a lleol i gydlynu ein gwaith ar gyfer ail agor. Ein hegwyddor arweiniol yw y dylid osgoi cynyddu’r risg i iechyd cyhoeddus a fyddai’n codi pe byddai llawer iawn o bobl yn heidio i’r mannau prydferth ac effaith hynny ar gymunedau lleol.  

Mae’n rhaid i rai o’r safleoedd mwyaf poblogaidd, yn enwedig Pen y Fan, Gwlad y Sgydau a Llyn y Fan Fach, aros ar gau ar hyn o bryd ond rydym ni’n gweithio gyda phartneriaid i gynllunio’r gwaith mawr sydd ei angen i baratoi i adael pobl yn ôl yn ddiogel i’r mannau hyn, yn unol â system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru.  

Rydym ni hefyd, gyda’n partneriaid, yn ystyried newidiadau arloesol i’r ffordd yr ydym yn rheoli ymwelwyr yn y mannau mwyaf poblogaidd, er budd yr amgylchedd a chymunedau a busnesau lleol.  

Rydym ni’n cynnal y prosesau hyn er mwyn cadw ein cymunedau lleol, staff ac ymwelwyr yn ddiogel ac er budd iechyd cyhoeddus wrth i Gymru ymateb i’r pandemig byd-eang.   Meddai’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog “Fe hoffen ni ddiolch i drigolion ac ymwelwyr am eu hamynedd a’u cefnogaeth ac am ddal i barchu’r cyfyngiadau yng Nghymru.  Bydd yn werth disgwyl nes ei bod yn ddiogel i ddod yn ôl i’r tirweddau sy’n cael eu gwarchod – yn ddiogel i gymunedau lleol, ymwelwyr a staff.”

DIWEDDARU 29.05.2020

Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog heddiw, fe hoffen ni atgoffa pawb fod Cymru’n dal o dan glo dros y penwythnos sydd o’n blaen ac mai dim ond teithio hanfodol sy’n cael ei ganiatáu.  Rydym ni, fel y Prif Weinidog, yn dibynnu ar ‘barodrwydd pobl Cymru i wneud y peth iawn’ ac yn diolch i chi am ddal i wneud hynny.   Ar hyn o bryd, mae’r holl fannau sydd mor boblogaidd gydag ymwelwyr wedi cau a hefyd y meysydd parcio a’r toiledau ond mae’r rhan fwyaf o’n llwybrau cyhoeddus yn dal ar agor i chi ymarfer corff yn syth o’ch cartref.  Mae rhestr lawr o’r mannau sydd wedi cau yma: https://www.bannaubrycheiniog.org/coronavirus-covid-19-2/tir-mynediad-llwybrau-cyhoeddus-ar-gau

 Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn paratoi ar gyfer llacio’r cyfnod clo drwy ddilyn system goleuadau traffig Llywodraeth Cymru a hefyd ein cyfrifoldebau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd 2020. Pan fydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi ei bod yn bryd llacio ymhellach, bydd yn rhaid i ni gael ychydig o amser weithredu unrhyw newidiadau a diweddaru’r arwyddion ar y ddaear.  Rydym ni’n amcangyfrif y bydd yn cymryd tua 7-10 diwrnod ar ôl unrhyw gyhoeddiad gan y Llywodraeth i wneud y newidiadau; rydym ni’n gofyn i chi fod yn amyneddgar er mwyn i ni allu cadw ein trigolion, ein hymwelwyr a’n staff yn ddiogel, eto’n dal i allu ymarfer corff.

DIWEDDARU 22.05.2020

Datganiad ar y cyd gan Barciau Cenedlaethol Cymru

Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn galw am barhad mewn amynedd wrth ofni penwythnos Gŵyl y Banc prysur.

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi diolch i’r cyhoedd am gadw at ganllawiau’r llywodraeth dros yr wythnosau diwethaf, ac maent yn galw ar bobl i barhau i fod yn amyneddgar ac i aros adref i aros yn ddiogel.

Tra bod Cymru’n parhau i fod wedi llwyrgloi, mae pryderon yn cynyddu y bydd pobl yn anwybyddu rheoliadau Llywodraeth Cymru ac yn ceisio cael mynediad i ardaloedd poblogaidd y Parciau Cenedlaethol dros benwythnos Gŵyl y Banc, gan roi cymunedau gwledig bregus y Parciau mewn mwy o berygl.

Mae Awdurdodau’r Parciau am atgoffa holl drigolion y DU bod Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac mai dim ond teithiau hanfodol a ganiateir yma, ac felly ni all pobl yrru er mwyn ymweld ag unrhyw un o Barciau Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Rydym wedi gweld bod negeseuon clir Llywodraeth Cymru yn cyrraedd llawr gwlad, a bod pobl ar y cyfan yn aros adref er mwyn aros yn ddiogel, a dim ond yn mynd allan i ymarfer o’u stepen drws, er y bu rhai eithriadau i hynny.”

“Mae Parciau Cenedlaethol yn ddibynnol ar ein heconomïau twristiaeth, ond yn ystod yr amseroedd digynsail yma rydym yn dweud wrth bobl am aros adref er mwyn aros yn ddiogel, ac i ymweld yn nes ymlaen. Os nad ydynt yn gwneud hynny, yna mae gwir bryder y bydd mwy o bwysau ar ein gwasanaethau iechyd ac na fydd mesurau ymbellhau cymdeithasol yn cael ei dilyn.”

Yn y cyfamser, meddai’r Cynghorydd Gareth Ratcliffe, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n cynrychioli ardal sy’n ffinio â Lloegr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae’r gwahaniaeth rhwng y rheoliadau yn Lloegr a Chymru wedi peri heriau yn lleol. Mae ein cymunedau yn gweithio’n galed er mwyn gofalu am ei gilydd ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n cadw at reolau Cymru ac yn diogelu ein cymunedau gwledig bregus.”

Meddai Mr. Owain Wyn, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Rydym yn deall bod pobl yn methu Parciau Cenedlaethol Cymru ac efallai’n cael eu temtio i ddod yma, ond gofynnwn i chi beidio. Mae’n gyfnod argyfyngus i’n cymunedau a’n gwasanaethau iechyd yma yng ngogledd Cymru gan mai dim ond yn awr yr ydym yn cyrraedd y brig mewn achosion o Covid-19. Edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl pan fydd yn ddiogel, yn ddiogel i chi ac yn ddiogel i’n cymunedau”.

Dan reoliadau Llywodraeth Cymru, mae Parciau Cenedlaethol Cymru wedi cau nifer o safleoedd, yn cynnwys Llwybr yr Arfordir ym Mhenfro, Yr Wyddfa yn Eryri a Phen Y Fan ym Mannau Brycheiniog. Mae’r safleoedd hyn ac eraill wedi eu cau gan y’u hystyrir fel rhai sy’n codi’r perygl o ran trosgludo firws Covid-19.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn annog pobl i barhau i barchu’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac i aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

DIWEDDARU 15.05.2020

Cyfyngiadau symud yn parhau yng Nghymru https://llyw.cymru/coronafeirws

Fe wyddom fod yna beth dryswch ynghylch cau’r Parciau Cenedlaethol. Mae hyn yn argyfwng cenedlaethol. Efallai, nad yw’r bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, fel y Parc Cenedlaethol, yn teimlo cymaint ar bwysau’r argyfwng cenedlaethol, ond mae llawer mwy o achosion wedi’u cadarnhau yn ne Cymru. Gallai llacio’r cyfyngiadau symud, felly, arwain at gynyddu’r gyfran heintio yn y Parc oherwydd, gynted ag y byddai’r cyfyngiadau’n cael eu llacio, byddai pobl yn dechrau symud a fyddwn ni ddim yn gallu eu rhwystro na rhwystro’r cynnydd yn y risg a fyddai’n dilyn o heintio trigolion y parc. Yn amlwg, mae rhai pobl yn bryderus ynghylch effaith y cyfyngiadau symud ar eu defnydd o gefn gwlad ond, byddai trigolion eraill sy’n fodlon gyda’r cyfyngiadau yr un mor bryderus pe byddai’r rhain yn cael eu codi ger lle maen nhw’n byw, er efallai nad ydyn nhw mor llafar ynghylch hynny ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Ychydig o dan 235 cilometr (12%) o’r rhwydwaith Llwybrau Cyhoeddus yn y Parc sydd wedi’u cau o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 ac mae’r rhain wedi’u cyfyngu i’r llwybrau hynny sydd o fewn neu’n arwain at fannau sy’n denu llawer o bobl ac ardaloedd lle gallai ymwelwyr heidio a chynyddu lledaeniad y feirws. Mae’r rhan fwyaf o’r Llwybrau Cyhoeddus yn y Parc yn dal ar agor ac wedi bod ar agor i bobl leol ers cychwyn y cyfyngiadau symud. Mae croeso i drigolion ganfod ble maen nhw yn eu hardal. Mae holl diroedd comin trefol y Parc yn dal ar agor (Mynydd Llangatwg, Mynydd Llangynidr a Phen y Crug) a hefyd y rhan fwyaf o’r safleodd coedwigoedd mynediad agored sy’n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn ogystal â llwybr tynnu Camlas Sir Fynwy i Aberhonddu. Felly, os yw’r safleoedd hyn a’r Llwybrau Cyhoeddus o fewn cyrraedd cerdded i gartref rhywun, maen nhw ar gael i ymarfer corff. Wrth gwrs, dyletswydd unigolion yw cadw’r pellter cymdeithasol a dilyn y canllawiau hylendid personol.

Rydyn ni’n adolygu cau’r llwybrau bob wythnos ac, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, ein casgliadau hyd yma yw: byddai newid yn creu dryswch, yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws ac yn peri pryder yn y gymuned.

Mae rhestr o’r mannau sydd ar gau ar gael yma – https://www.bannaubrycheiniog.org/…/tir-mynediad-llwybrau-…/
ac mae ein rhesymeg lawn yma https://www.bannaubrycheiniog.org/corona…/rhesymeg-dros-gau/

DIWEDDARU 12.05.2020

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru yn cyhoeddi neges glir i barchu Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymru wedi croesawu canllawiau newydd Llywodraeth Cymru sy’n atgyfnerthu’r angen i bobl Cymru aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol hefyd yn galw ar holl drigolion y DU i barchu’r rheolau a’r mesurau sy’n bodoli yng Nghymru er mwyn gwarchod pawb, ac yr wythnos hon byddant yn ymdrechu’n galed gyda’u partneriaid i sicrhau bod pobl yn derbyn yr wybodaeth gywir.

Wrth gyfeirio at y canllawiau diwygiedig, meddai Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

 “Mae’r mesurau clir a gyhoeddwyd gan Brif Weinidog Cymru Mark Drakeford ddydd Gwener yn berthnasol i’r rhai hynny sy’n byw yng Nghymru yn ogystal â’r rhai hynny sy’n bwriadu teithio dros y ffin i Gymru.”

“Mae Cymru yn parhau i fod wedi llwyrgloi, ac fe ddylech aros adref oni bai eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau hanfodol. Golyga hyn hefyd na ddylech yrru i fynd allan i ymarfer corff, ac mai dim ond yn uniongyrchol o’ch cartref y dylech chi fynd allan i ymarfer, tra hefyd yn cadw at y Côd Cefn Gwlad.”

“I’r rhai hynny nad ydynt yn byw o fewn pellter cerdded mae’r neges gennym ni yn glir – peidiwch ag ymweld â Pharciau Cenedlaethol Cymru nes bydd canllawiau Llywodraeth Cymru i osgoi teithio diangen yng Nghymru wedi ei godi.”

“Rydym yn deall bod y cyfyngiadau hyn yn anodd i bobl, ond y brif flaenoriaeth yw cadw ein trigolion, ymwelwyr a staff yn ddiogel. Edrychwn ymlaen at yr amser y cawn eich croesawu’n ôl i Barciau Cenedlaethol Cymru, ac yn bwysicaf oll, ein bod yn gwneud hynny pan allwn gadw pawb yn ddiogel.”

Bydd lleoliadau gwledig mwyaf poblogaidd Cymru, yn cynnwys Yr Wyddfa, Pen y Fan a Llwybr Arfordir Penfro, yn parhau i fod ar gau trwy ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru hyd nes yr ystyrir ei bod yn ddiogel i’w hail-agor.

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

 “Golyga’r mesurau hyn yng Nghymru na gaiff pobl yrru i ymarfer corff yng Nghymru – waeth lle maent yn byw – a bydd meysydd parcio a mynediad i’r safleoedd mwyaf poblogaidd ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yn parhau i fod ar gau.

“Rydym yn annog ymwelwyr sy’n bwriadu dod i ddringo’r Wyddfa neu unrhyw gopaon a safleoedd poblogaidd eraill i ddilyn canllawiau’r llywodraeth, i aros adref ac i ymarfer corff yn eu hardal leol – peidiwch â gwneud siwrnai ddiangen. Byddwn yn parhau i adolygu’r safleoedd caeedig yn wythnosol a dim ond yn agor safleoedd pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.”

Meddai Julian Atkins, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

“Mae ymarfer yn yr awyr agored yn hynod fuddiol i lesiant corfforol a meddyliol ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hynny yn eu mân ddiwygiadau i’r ddeddfwriaeth ddydd Gwener sydd bellach yn caniatáu pobl i ymarfer corff o’u stepen drws mwy nag unwaith y dydd.

“Gobeithiwn ein bod wedi egluro’r gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ac fe hoffem ddiolch i chi am aros adref, aros yn ddiogel a gwarchod y GIG.”

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch y safleoedd sydd wedi cau yn ogystal â newidiadau i wasanaethau’r Parciau Cenedlaethol yma:

Eryri: www.eryri.llyw.cymru/coronavirus
Bannau Brycheiniog:  https://www.beacons-npa.gov.uk
Arfordir Penfro: www.pembrokeshirecoast.wales

DIWEDDARU 14.04.2020

Rydym ni wedi adolygu ein cau yn unol â pholisi cloi Llywodraeth Cymru a bydd y cau a restrir isod yn aros yn ei le ar yr adeg hon.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i’r Parc Cenedlaethol a byddwn yn parhau i adolygu ein cau yn wythnosol yn unol â’r amserlen y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi dros leddfu’r cyfyngiadau.
Y n y cyfamser, arhoswch adref, arhoswch yn ddiogel.

Tir mynediad/llwybrau cyhoeddus ar gau drwy weithred Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

BB-1  Bannau Canolog

Pob ardal o dir mynediad, o fewn y Bannau Canolog gan gynnwys Pen y Fan, Corn Du, Cribyn, Fan y Bîg, Waun Rydd, Allt Lwyd, Torpantau, Pant y Creigiau, Bryniau Gleision, Cefn yr Ystrad, Cefn Cil-Sanws, Garn Ddu, Cefn Car, Waun Wen, Waun Lysiog, Twyn Mwyalchod, Graig Fan Ddu, Gwaun Taf, Gwaun Perfedd, Cefn Crew, Tyle Brith, Pen Milan, Y Gyrn, Cefn Cwm Llwch, Bryn Teg, Cefn Cyff a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny. Yn ychwanegol, maes parcio Storey Arms

BB-2  Bro Y Sgydau (Pontneddfechan, Ystradfellte a Phenderyn)

Pob ardal o dir mynediad ym Mro y Sgydau a phob llwybr troed a llwybr march ar dir mynediad. Yn ychwanegol llwybr troed rhif 17 yn dechrau o Benderyn (SN94481,08918) ac yn arwain at Sgwd yr Eira, llwybr march rhif 32 yn dechrau o Graig y Ddinas (SN91569,08079), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o bwynt i’r gogledd o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91819,10763), llwybr troed rhif 84 yn dechrau o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91878,10566), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o faes parcio Cwm Porth (SN92825,12370) a llwybr troed rhif 18 yn dechrau o’r A4059 ger Pant-Garw (SN94432,09959)52506657ic

BB-3  Y Mynyddoedd Duon, Dwyrain

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Penybegwn a Ffynnon y Parc ac yn ymestyn i’r de ar hyd Crib Hatterrall ac yn cynnwys Bryn Hatterrall a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-4  Y Mynyddoedd Duon – Canol

Pob ardal o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddodd Duon gan gynnwys Waun Fach, Pen y Manllwyn, Y Grib, Rhos Dirion, Twmpa, Waun Croes Hywel, Darren Lwyd, Gadair Fawr, Mynydd Llysiau, Pen Twyn Glas, Pen Allt-mawr, Pen Cerrig-calch, Pen Twyn Mawr, Pen Garreg, Crug Mawr, Blaen yr Henbant, Bryn Partrishow, Twyn Talycefn, Y Fan, Bwlch Bach, Bâl Mawr, Bâl Bach, Garn Wen ac y Gaer a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-5  Y Mynyddoedd Duon – Gorllewin

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn gyfagos at Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Rhos Fach and Rhos Fawr a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-6  Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, uwchben terfyn y bryn, lle mae yn cysylltu gyda tir mynediad, rhwng SO23868,39549 i’r de o Gadwgan (Y Gelli) a SO32447,22753 i’r gorllewin o Ffarm Trewyn (Pandy)

BB-7  Y Mynydd Du

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynydd Du a Gorllewin Y Fforest Fawr gan gynnwys Mynydd Bach Trecastell, Mynydd Myddfai, Fedw Fawr, Waun Lwyd, Garn Lâs, Twyn yr Esgair, Moel Feity, Bannau Sir Gâr, Fan Brycheiniog, Waun Haffes, Cefn Twrch, Garreg Las, Waun Fignen Felen, Carreg Goch, Dorwen ar Giedd, Llorfa, Cefn Carn Fadog, Foel Fraith, Garreg Lwyd, Feol Deg ar Bedol, Tair Carn, Mynydd Isaf, Drysgol a’r meysysdd parcio yn Llyn y Fan Fach, Cwar Herbert a Brest Cwm Llwyd a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-8  Fforest Fawr Dwyreiniol a Manor Mawr

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn ac yn gyfagos at Ddwyrain Y Fforest Fawr a Manor Mawr gan gynnwys Fan Fawr, Rhos Dringarth, Fan Dringarth, Fan Frynich, Twyn Dylluan-ddu, Craig Cerrig Gleisiad, Fan Llia, Waun Llywarch, Ton Teg, Waun Tincer, Mynydd y Garn, Gwaun Cefn y Garreg, Cadair Fawr, Pant y Gadair, Cefn Cadlan, Garn Ddu, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-9  Mynydd Illtud

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Mynydd Illtud yn cynnwys Twyn y Gaer, Allt Lom, Daudraeth Illtud a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-10 Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel gan gynnwys pob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-11 Ysgyryd Fawr

Ysgyrryd Fawr (SO32983,17857) a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 182 sydd yn dechrau o hen ffordd Rhosan ar Wy yn SO32824,16375 i’w gyswllt gyda tir mynediad yn SO32730,16953

BB-12 Allt yr Esgair

Llwybrau march rhifau 8 a 10 sydd yn dechrau o SO12941,22706 yng nghilfan yr A40 yn Nhalybryn, Llansantffraed ac yn myned tuag at Allt yr Esgair

BB-13 Crug Hywel

Yr ardal o dir mynediad gan gynnwys bryngaer Crug Hywel a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 9 rhwng SO22408,19864 a SO22491,20321 a llwybr march rhif 5 (Cwm Cwmbeth) rhwng SO21956,20081 a SO21826,20885

BB-14 Garn Goch, Bethlehem

Garn Goch, Bethlehem (SN69130,24342) yn cynnwys y llwybr troed o fewn yr ardal hynny a’r maes parcio

BB-15 Carreg Cennen

Coedlan Carreg Cennen, y maes parcio a’r gylchdaith sydd yn cynnwys llwybrau troed rhifau 34, 35, 36, 37 a 38 rhwng SN66512,19093; SN67133,19067 (Hengrofft); SN67663,18906 a SN68862,19062 (Wern-Wgan)

BB-16 Ffordd y Bannau

Ffordd y Bannau lle mae yn croesi unrhyw rhai o’r ardaloedd uchod a’r rhan sydd yn dilyn llwybrau troed rhifau 33, 34 a 35 rhwng SN85598,15466 a SN90814,14348 rhwng Penwyllt a Blaen Nedd

Safleoedd arall sydd ar gau

BB-17 Park Gwledig Craig y Nos

BB-18 Maes parcio Keeper’s Pond (SO25480,20735) a maes parcio Foxhunter (SO26324,210750)

BB-19 Cuddfan adar Llangasty (SO12651,26224) a’r maes parcio ger Eglwys  Llangasty (SO13287,26186)

BB-20 Maes parcio Blaen Onneu (SO15712,17087) ger y B4560 a maes parcio tarren Llangatwg (SO20919,215391)

BB-21 Safle picnic ger Craig Cerrig Gleisiad oddiar yr A470 (SO97129,22174)

BB-22 Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a’r maes parcio

BB-23 Meysydd parcio Blaen-y-glyn Uchaf and Isaf ym mlaen Glyn Collwn (Talybont ar Wysg) yn SO05645,27599 a SO06321,170444

BB-24 Yr ardal o dir gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Y Fâl a’r Deri gan gynnwys pob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny â meysydd parcio ger Y Fâl yn y Fro (SO29228,20032) a Llwyn-du (SO28372,16184)

BB-25 Maes parcio anffurfiol ger Castell Carreg Cennen (SN67072,19020)

BB-26 Meysydd parcio coedwig Mynydd Du ym Mlaen Y Cwm (SO25297,28387) a Cadwgan (SO26720,25134)

BB-27 Meysydd parcio coedwig Taf Fechan yn “Owl’s Grove” (SO04872,16259), Pont Cwmyfedwen (SO04235,16399) a Neuadd (SO03768,16960)

BB-28 Canolfan Ymwelwyr Garwnant (SO0304,13117) gan gynnwys y maes parcio, toiledau, ardaloedd chwarae a llwybrau beicio

BB-29 Meysydd parcio ym Mro y Sgydau ynh Nghlun Gwyn (SN91868,10580), Cwm Porth (SN92844,12427), Gwaun Hepste (SN93561,12355), Pont Melin Fach (SN90792,10486) a Chraig y Ddinas (SN91095,07931)

BB-30 Maes parcio Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu (SN85617,15555)

BB-31 Maes parcio coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg (SN82003,27134)

BB-32 Maes parcio coedwig Cwm Giedd (SN79141,12772)

BB-33 Maes parcio coedwig Pen Arthur, Llangadog (SN71715,25590)

BB-34 Maes parcio Pont-ar Dâf oddiar yr A470 (SN98689,19989)

DIWEDDARU 09.04.2020

Llythyr at bobl Cymru

Wrth i benwythnos y Pasg agosáu, rydym am i bawb wneud un peth pwysig. Aros gartref ac achub bywydau.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio ddydd a nos i ofalu am bobl a’u cadw’n ddiogel yn ystod pandemig y coronafeirws. Mae ein gweithwyr rheng flaen yn rhoi ein hiechyd a’n gofal ni gyntaf, bob dydd.

Rhaid i ninnau barhau i wneud popeth y gallwn i’w cefnogi nhw; i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd ac i achub bywydau.

Arhoswch gartref a helpwch i atal y feirws.

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn hawdd. Diolch i chi am gadw at y rheolau. Er bod ambell arwydd positif cychwynnol, mae gennym ffordd bell i fynd eto. Rydym yn gwybod bod aros gartref am gyfnodau hir yn anodd, a bod teuluoedd ledled Cymru’n gwneud aberth bob dydd.
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwneud yr hyn sydd raid. Ond mae’n rhwystredig iawn gweld rhai pobl yn anwybyddu’r rheolau a rhoi bywydau eraill mewn perygl.

Rydym yn gweithredu i rwystro hyn. Mae’r rheolau yno i’ch diogelu chi, eich teulu a’ch ffrindiau. I’r rhan fwyaf o bobl, salwch ysgafn fydd y coronafeirws yn ei achosi, ond gall nifer fawr o bobl eraill – plant, oedolion, henoed – fynd yn ddifrifol wael os ydynt yn dal yr haint.

Yn drist iawn, mae llawer o bobl eisoes wedi marw ar ôl dal y coronafeirws. Mae teuluoedd ym mhob cwr o Gymru wedi colli rhywun i’r salwch hwn. Os na wnawn ni weithredu nawr, bydd mwy o bobl yn marw.

Bydd ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ni dros benwythnos y Pasg a’r wythnosau a misoedd nesaf yn effeithio ar ein cenedl am flynyddoedd i ddod.

Rydym yn erfyn arnoch – arhoswch gartref i achub bywydau.

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru
Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru
Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru
Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Carl Foulkes, Prif Gwnstabl, Heddlu Gogledd Cymru
Mark Collins Prif Gwnstabl, Heddlu Dyfed-Powys
Matt Jukes Prif Gwnstabl, Heddlu De Cymru
Pam Kelly Prif Gwnstabl, Heddlu Gwent
Andrew Morgan WLGA Leader, on behalf of all Welsh Local Authorities
Arfon Jones, Police and Crime Commissioner for North Wales
Dafydd Llywelyn, Police and Crime Commissioner for Dyfed-Powys
Alun Michael, Police and Crime Commissioner for South Wales
Jeff Cuthbert, Police and Crime Commissioner for Gwent
Jason Killens, Chief Executive, Welsh Ambulance Services NHS Trust
Ruth Marks, Wales Council for Voluntary Action Chief Executive
Simon Smith, Chief Fire Officer North Wales Fire and Rescue Service
Chris Davies, Chief Fire Officer Mid and West Wales Fire and Rescue Service
Huw Jakeway, Chief Fire Officer South Wales Fire and Rescue Service
Julian Atkins, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Tegryn Jones, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Emyr Williams, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

DIWEDDARU 03.04.2020

Rhesymeg dros Gau mewn perthynas â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

Mewn ymateb i ymholiadau y mae’r Awdurdod yn eu cael ynghylch y penderfyniad a gyflwynwyd i gau lleoliadau fel rhan o’r ymdrech genedlaethol i fynd i’r afael â lledaeniad Coronafeirws, mae’r datganiad hwn yn ceisio esbonio’r rhesymeg dros gau.

Rydym wedi ceisio cau’r lleoliadau (copaon mynyddoedd, cribau, rhannau prydferth o’r Parc) sy’n denu ymwelwyr ynghyd â’r prif ffyrdd o gael mynediad i’r lleoliadau hyn, yn ogystal â’r prif feysydd parcio sy’n eu gwasanaethu. Y nod yw cyfleu’r neges ein bod ar gau i ymwelwyr ac na ddylai pobl fod yn defnyddio’u ceir i fwynhau taith gerdded yng nghefn gwlad. Er bod yr un rhesymeg wedi’i defnyddio ym mhob un o’r tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru, mae ei gweithredu ar lawr gwlad yn wahanol oherwydd ein daearyddiaeth wahanol. Ym Mannau Brycheiniog, mae’r ardaloedd sydd ar gau yn eithaf mawr oherwydd bod llawer ohonynt hefyd yn dir comin a thir mynediad CGHT.  Nid yw’n hawdd rheoleiddio neu gyfyngu mynediad i rai rhannau ac nid eraill oherwydd eu natur agored iawn (ni allwn ffensio rhannau rhag mynediad er enghraifft).  Ni allwn ychwaith wahaniaethu’n hawdd rhwng trigolion lleol ac ymwelwyr na rhagweld y galw mewn lleoliadau penodol ar ddiwrnodau penodol.

Mae’r rhan fwyaf o rwydwaith Hawliau Tramwy’r iseldir yn dal ar agor i’w ddefnyddio’n lleol, a hyd yma nid yw hyn yn arwain at broblemau o ran tagfeydd neu bobl yn osgoi’r rheol dau fetr. Yn wir, mae’n ymddangos bod y trigolion yn addasu’n dda i ddefnyddio llwybrau na fyddent fel arfer yn eu defnyddio. Mae’r dull hwn yn gwbl gyson â’r sylwadau answyddogol ond synhwyrol gan y Llywodraeth bod taith gerdded o tuag awr o garreg eich drws bob dydd yn ymarfer corff rhesymol a digonol i’r rhan fwyaf o bobl.  Mae’n rhaid i bob un ohonom gwtogi ein gweithgareddau hamdden arferol a dylem i gyd fod yn gwneud ein rhan i gefnogi’r cyfyngiadau ar symud sydd mewn grym.

Amcan y Llywodraeth yw atal lledaeniad y feirws o gartref i gartref, ac ar hyn o bryd rydym o’r farn ei bod yn rhy gynnar i ystyried llacio’r mesurau sydd bellach mewn grym o ran cau lleoliadau.  Yn sgil y rheoliadau diwygiedig a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ac o ystyried y canllawiau clir gan Glandŵr Cymru, rydym wedi cadw Llwybr Tynnu Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn agored ar gyfer defnydd cyfyngedig yn unig.

Rydym yn asesu’r mesurau cau bob wythnos ond yn bwriadu eu hadolygu’n ffurfiol ar y pwynt adolygu cyntaf (Ebrill 15) mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru. Byddem yn croesawu sylwadau gan drigolion lleol ynghylch unrhyw anawsterau penodol y mae’r mesurau cau presennol yn eu hachosi o ran gallu gwneud ymarfer corff rhesymol bob dydd o’r cartref.

Fel Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gyfrifol am hyrwyddo gwarchod a mwynhau ein tirwedd ddynodedig, nid ydym wedi penderfynu cau ein hardaloedd heb ystyriaeth ofalus. Mae hyn wedi bod yn destun proses adolygu fewnol ar draws yr Awdurdod a rhoddwyd ystyriaeth briodol i’r rheoliadau a’u hamcanion.

Wrth sefydlu’r rhesymeg hon, rydym yn gorfod ystyried y canlynol:

  • Mae’r sefyllfa’n ddifrifol ac mae nifer y marwolaethau sy’n cael eu cofnodi’n ddyddiol yn y DU yn parhau i godi ar raddfa frawychus. Yn y cyd-destun hwn, mae’n bwysig rheoleiddio lleoliadau lle gallai pobl fynd i wneud ymarfer corff.
  • Mae’r wyddoniaeth sy’n sail i’r canllawiau yn datblygu’n barhaus (ceir tystiolaeth bellach, er enghraifft, nad yw cadw pellter cymdeithasol o 2m yn ddigon o bosibl).
  • Fel sefydliad sector cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i’w chyflawni mewn argyfwng cenedlaethol.
  • Yr angen i gadw’r rhan fwyaf o’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ar gyfer defnydd hanfodol gan drigolion lleol.
  • Mae’n rhaid i ni gydbwyso galwadau i lacio’r mesurau cau â galwadau am gyfyngiadau tynnach.
  • Rhaid ystyried bod teithio mewn cerbydau i wneud ymarfer corff yn fath o deithio nad yw’n hanfodol.
  • Fel arfer, ceir mynediad i ardaloedd ucheldirol drwy yrru i fan cychwyn yng nghefn gwlad o leoliadau naill ai y tu mewn neu’r tu allan i’r Parc Cenedlaethol ac mae’r mannau parcio hyn yn debygol o arwain at gynulliadau o fwy na dau berson, ac ni ellir rheoli hyn heb gau lleoliadau.
  • Rydym yn ystyried buddiannau cymunedau lleol yn gyffredinol oherwydd y cymunedau lleol sy’n cael eu peryglu gan bobl yn ymweld â’r ardaloedd mwyaf poblogaidd.
  • Mae caffis, tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden ac ati ar gau a derbyniwyd y penderfyniad i wneud hyn. Nid oes gwahaniaeth rhwng hyn a mynediad i gefn gwlad.
  • Mae’r Parc yma i bawb ac mae’n cael ei reoli ar ran pawb.
  • Ein canfyddiadau hyd yn hyn yw bod y rheoliadau’n gweithio; mae’r mannau poblogaidd yn dawel. Ychydig iawn o bobl sydd yn unman ar y Gamlas, sy’n parhau i fod ar agor, neu o gwmpas Aberhonddu, er enghraifft (yr ardal fwyaf poblog).  Mae’r canfyddiadau hyn yn ogystal ag adborth gan y gymuned yn dangos bod pobl yn gallu addasu.

DIWEDDARU 27.03.2020

Rhestr wedi’i diweddaru ardaloedd ar gau, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Tir mynediad/llwybrau cyhoeddus ar gau drwy weithred Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

BB-1  Bannau Canolog

Pob ardal o dir mynediad, o fewn y Bannau Canolog gan gynnwys Pen y Fan, Corn Du, Cribyn, Fan y Bîg, Waun Rydd, Allt Lwyd, Torpantau, Pant y Creigiau, Bryniau Gleision, Cefn yr Ystrad, Cefn Cil-Sanws, Garn Ddu, Cefn Car, Waun Wen, Waun Lysiog, Twyn Mwyalchod, Graig Fan Ddu, Gwaun Taf, Gwaun Perfedd, Cefn Crew, Tyle Brith, Pen Milan, Y Gyrn, Cefn Cwm Llwch, Bryn Teg, Cefn Cyff a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny. Yn ychwanegol, maes parcio Storey Arms

BB-2  Bro Y Sgydau (Pontneddfechan, Ystradfellte a Phenderyn)

Pob ardal o dir mynediad ym Mro y Sgydau a phob llwybr troed a llwybr march ar dir mynediad. Yn ychwanegol llwybr troed rhif 17 yn dechrau o Benderyn (SN94481,08918) ac yn arwain at Sgwd yr Eira, llwybr march rhif 32 yn dechrau o Graig y Ddinas (SN91569,08079), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o bwynt i’r gogledd o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91819,10763), llwybr troed rhif 84 yn dechrau o faes parcio Clyn-Gwyn (SN91878,10566), llwybr troed rhif 42 yn dechrau o faes parcio Cwm Porth (SN92825,12370) a llwybr troed rhif 18 yn dechrau o’r A4059 ger Pant-Garw (SN94432,09959)

BB-3  Y Mynyddoedd Duon, Dwyrain

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Penybegwn a Ffynnon y Parc ac yn ymestyn i’r de ar hyd Crib Hatterrall ac yn cynnwys Bryn Hatterrall a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-4  Y Mynyddoedd Duon – Canol

Pob ardal o dir mynediad, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynyddodd Duon gan gynnwys Waun Fach, Pen y Manllwyn, Y Grib, Rhos Dirion, Twmpa, Waun Croes Hywel, Darren Lwyd, Gadair Fawr, Mynydd Llysiau, Pen Twyn Glas, Pen Allt-mawr, Pen Cerrig-calch, Pen Twyn Mawr, Pen Garreg, Crug Mawr, Blaen yr Henbant, Bryn Partrishow, Twyn Talycefn, Y Fan, Bwlch Bach, Bâl Mawr, Bâl Bach, Garn Wen ac y Gaer a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-5  Y Mynyddoedd Duon – Gorllewin

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn gyfagos at Y Mynyddoedd Duon gan gynnwys Rhos Fach and Rhos Fawr a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-6  Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa

Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, uwchben terfyn y bryn, lle mae yn cysylltu gyda tir mynediad, rhwng SO23868,39549 i’r de o Gadwgan (Y Gelli) a SO32447,22753 i’r gorllewin o Ffarm Trewyn (Pandy)

BB-7  Y Mynydd Du

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Y Mynydd Du a Gorllewin Y Fforest Fawr gan gynnwys Mynydd Bach Trecastell, Mynydd Myddfai, Fedw Fawr, Waun Lwyd, Garn Lâs, Twyn yr Esgair, Moel Feity, Bannau Sir Gâr, Fan Brycheiniog, Waun Haffes, Cefn Twrch, Garreg Las, Waun Fignen Felen, Carreg Goch, Dorwen ar Giedd, Llorfa, Cefn Carn Fadog, Foel Fraith, Garreg Lwyd, Feol Deg ar Bedol, Tair Carn, Mynydd Isaf, Drysgol a’r meysysdd parcio yn Llyn y Fan Fach, Cwar Herbert a Brest Cwm Llwyd a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny 

BB-8  Fforest Fawr Dwyreiniol a Manor Mawr

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn ac yn gyfagos at Ddwyrain Y Fforest Fawr a Manor Mawr gan gynnwys Fan Fawr, Rhos Dringarth, Fan Dringarth, Fan Frynich, Twyn Dylluan-ddu, Craig Cerrig Gleisiad, Fan Llia, Waun Llywarch, Ton Teg, Waun Tincer, Mynydd y Garn, Gwaun Cefn y Garreg, Cadair Fawr, Pant y Gadair, Cefn Cadlan, Garn Ddu, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog a phob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny

BB-9  Mynydd Illtud

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, o fewn Mynydd Illtud yn cynnwys Twyn y Gaer, Allt Lom, Daudraeth Illtud a phob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-10 Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel

Pob ardal o dir mynediad gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Mynydd Troed, Mynydd Llangors, Pen Tir a Chefn Moel gan gynnwys pob llwybr troed, llwybr march a chulffordd gyfyngedig o fewn yr ardaloedd hynny

BB-11 Ysgyryd Fawr

Ysgyrryd Fawr (SO32983,17857) a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 182 sydd yn dechrau o hen ffordd Rhosan ar Wy yn SO32824,16375 i’w gyswllt gyda tir mynediad yn SO32730,16953

BB-12 Allt yr Esgair

Llwybrau march rhifau 8 a 10 sydd yn dechrau o SO12941,22706 yng nghilfan yr A40 yn Nhalybryn, Llansantffraed ac yn myned tuag at Allt yr Esgair

BB-13 Crug Hywel

Yr ardal o dir mynediad gan gynnwys bryngaer Crug Hywel a phob llwybr troed o fewn yr ardal hynny ynghyd â llwybr troed rhif 9 rhwng SO22408,19864 a SO22491,20321 a llwybr march rhif 5 (Cwm Cwmbeth) rhwng SO21956,20081 a SO21826,20885

BB-14 Garn Goch, Bethlehem

Garn Goch, Bethlehem (SN69130,24342) yn cynnwys y llwybr troed o fewn yr ardal hynny a’r maes parcio

BB-15 Carreg Cennen

Coedlan Carreg Cennen, y maes parcio a’r gylchdaith sydd yn cynnwys llwybrau troed rhifau 34, 35, 36, 37 a 38 rhwng SN66512,19093; SN67133,19067 (Hengrofft); SN67663,18906 a SN68862,19062 (Wern-Wgan)

BB-16 Ffordd y Bannau

Ffordd y Bannau lle mae yn croesi unrhyw rhai o’r ardaloedd uchod a’r rhan sydd yn dilyn llwybrau troed rhifau 33, 34 a 35 rhwng SN85598,15466 a SN90814,14348 rhwng Penwyllt a Blaen Nedd

Safleoedd arall sydd ar gau

BB-17 Park Gwledig Craig y Nos

BB-18 Maes parcio Keeper’s Pond (SO25480,20735) a maes parcio Foxhunter (SO26324,210750)

BB-19 Cuddfan adar Llangasty (SO12651,26224) a’r maes parcio ger Eglwys  Llangasty (SO13287,26186)

BB-20 Maes parcio Blaen Onneu (SO15712,17087) ger y B4560 a maes parcio tarren Llangatwg (SO20919,215391)

BB-21 Safle picnic ger Craig Cerrig Gleisiad oddiar yr A470 (SO97129,22174)

BB-22 Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol a’r maes parcio

BB-23 Meysydd parcio Blaen-y-glyn Uchaf and Isaf ym mlaen Glyn Collwn (Talybont ar Wysg) yn SO05645,27599 a SO06321,170444

BB-24 Yr ardal o dir gan gynnwys cilfannau parcio ar ochr y ffordd, uwchben terfyn y bryn, yn cynnwys Y Fâl a’r Deri gan gynnwys pob llwybr troed a llwybr march o fewn yr ardaloedd hynny â meysydd parcio ger Y Fâl yn y Fro (SO29228,20032) a Llwyn-du (SO28372,16184)

BB-25 Maes parcio anffurfiol ger Castell Carreg Cennen (SN67072,19020)

BB-26 Meysydd parcio coedwig Mynydd Du ym Mlaen Y Cwm (SO25297,28387) a Cadwgan (SO26720,25134)

BB-27 Meysydd parcio coedwig Taf Fechan yn “Owl’s Grove” (SO04872,16259), Pont Cwmyfedwen (SO04235,16399) a Neuadd (SO03768,16960)

BB-28 Canolfan Ymwelwyr Garwnant (SO0304,13117) gan gynnwys y maes parcio, toiledau, ardaloedd chwarae a llwybrau beicio

BB-29 Meysydd parcio ym Mro y Sgydau ynh Nghlun Gwyn (SN91868,10580), Cwm Porth (SN92844,12427), Gwaun Hepste (SN93561,12355), Pont Melin Fach (SN90792,10486) a Chraig y Ddinas (SN91095,07931)

BB-30 Maes parcio Gwarchodfa Natur Ogof Ffynnon Ddu (SN85617,15555)

BB-31 Maes parcio coedwig Glasfynydd, Pont ar Wysg (SN82003,27134)

BB-32 Maes parcio coedwig Cwm Giedd (SN79141,12772)

BB-33 Maes parcio coedwig Pen Arthur, Llangadog (SN71715,25590)

BB-34 Maes parcio Pont-ar Dâf oddiar yr A470 (SN98689,19989)

DIWEDDARU 25.03.2020

Mesurau Argyfwng COVID-19 i lwybr a maes parcio.

DIWEDDARU 23.03.2020

Gweler ein datganiad diweddaraf yma –Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrth alw ar y Llywodraeth

DIWEDDARU 18.03.2020

Mewn ymateb i gyngor y Llywodraeth i gyfyngu ar gyffyrddiadau cymdeithasol o ganlyniad i effaith Covid-19 (Coronovirus) mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi penderfynu cau ei Phencadlys yn Aberhonddu o 5 yp heddiw (dydd Mercher 18 Mawrth).

Bydd ein llinellau ffôn ym mhob un o’n lleoliadau’n parhau ar agor i’r cyhoedd. Serch hyn hoffem eich annog i gysylltu gyda ni drwy e-bost: enquiries@beacons-npa.gov.uk.

Dilynwch y cyfynrgau cymdeithasol neu gwiriwch ein gwefan (www.beacons-npa.gov.uk) ar gyfer mwy o ddiweddariadau.

Mae gennym gynlluniau i ddarparu cysondeb busnes ond mae’n bosibl bydd rhaid cyfyngu neu oedi rhai rhannau o’n gwaith. Rydym yn dilyn cyngor Llywodraethau Cymru a’r DU mewn perthynas â Coronavirus/ Covid-19 a byddem yn diweddaru ein gweithdrefnoedd pan fydd angen. Mewn perthynas â’r Pwyllgor Cynllunio a oedd fod cyfarfod Dydd Mawrth 31 Mawrth, mae’r cyfarfod wedi cael ei ganslo.

Gewch wybod y diweddara’ trwy ein gwefan neu ein sianelau cyfryngau cymdeithasol ar Twitter a Facebook

***Newidiadau i’r gwasanaeth cynllunio o ganlyniad i COVID-19 ***

Fel gallech ei ddychmygu mae Covid-19 wedi cael effaith ar y ffordd mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gallu gweithio. Mae rhan fwyaf o’n staff yn gweithio o adref yn awr ac er na fydd llawer o wasanaethau yn cael eu heffeithio o ganlyniad i’r newid yma, rydym eisiau gadael i chi wybod mae’n bosibl bydd oedi mewn ymateb i chi wrth i ni addasu i’n ffordd newydd o weithio. Rydym yn gobeithio y gallech ddeall bod y newidiadau hyn o ganlyniad i ddigwyddiadau byd-eang digynsail ac rydym yn ddiolchgar am eich amynedd a’ch caredigrwydd wrth i chi gysylltu gyda ni. Mae’r canlynol yn gywir ar 17 Mawrth 2020. Byddwn yn diweddaru’r dudalen os oes unrhyw newidiadau pellach.

  • Rydym dal i brosesu ceisiadau cynllunio ond mae’n bosibl byddwn yn cymryd yn hirach na’r arfer i gyrraedd penderfyniad, ac mae’n bosibl byddwn yn aros yn hwy am ymateb gan rheiny rydym yn ymgynghori gyda. O ganlyniad mae’n bosibl bydd hyn yn cymryd 8 wythnos yn ychwanegol.
  • Rydym dal i ddarparu cyngor cynllunio dros y ffôn a thrwy e-bost ond mae ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb a sesiynau cynghori cynllunio wedi cael eu gohirio am y tro.
  • Rydym yn gohirio cyfarfodydd cyn-cais ar safleoedd am y tro. Byddwn dal i gynnig cyngor ysgrifenedig ond unwaith eto efallai bydd oedi cyn i ni ymateb i chi.
  • Ni fyddwch yn gallu dod i’n swyddfeydd yn Aberhonddu i siarad gyda swyddog cynllunio, technegydd nag aelod o staff ar ein desg cymorth ond gallech gysylltu trwy e-bost ar planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk.
  • Dylech geisio cyfathrebu drwy e-bost pan fo’n bosibl oherwydd mae’n bosibl bydd oedi yn y post.
  • Nid yw’r Awdurdod bellach yn gallu derbyn taliadau arian parod, siec na cherdyn ffôn oherwydd effaith yr argyfwng. Gwnewch bob taliad gan BACS ac anfonwch yr holl anfonebau, taliadau a gohebiaeth ac ymholiadau eraill trwy e-bost i finance@beacons-npa.gov.uk