Awdurdod Parc Cenedlaethol yn creu chwe swydd Kicksart i bobl ifanc

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi creu chwe swydd i bobl ifanc trwy’r cynllun Kickstart, sy’n cael ei ariannu gan y Llywodraeth ac mewn partneriaeth gyda grŵp colegau NPTC.   Mae swyddi Kickstart yr Awdurdod am 25 awr yr wythnos am chwe mis ac ar gael i rai 18-24 oed mewn gwahanol fannau yn y Parc Cenedlaethol.

Ym Mharc Gwledig Craig-y-nos yn Nghwm Tawe Uchaf, bydd dwy swydd Kickstart i Weithwyr Ystâd yn helpu tîm y Parc Gwledig gyda thasgau cynnal tiroedd.  Bydd hynny’n cynnwys rheoli llystyfiant, trwsio llwybrau a phrosiectau cadwraeth megis arolygu rhywogaethau, cynnal a chadw ffosydd a rheoli rhywogaethau ymwthiol. Mae gan Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn Libanus swydd ar gyfer un Cymhorthydd Mân-werthu i ymuno â thîm y Ganolfan yn croesawu ymwelwyr i’r Parc Cenedlaethol ac yn helpu gyda gwaith y ganolfan wybodaeth, y siop a’r tiroedd.  Bydd tair swydd Kickstart arall yn Swyddfeydd yr Awdurdod yn Aberhonddu.  Bydd Cymhorthydd TG yn gweithio fel rhan o dîm Technoleg Gwybodaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac yn ateb galwadau am gefnogaeth a thocynnau a throsglwyddo i uwch aelodau’r tîm TG, yn seiliedig ar ddisgrifiad o’r nam. Bydd Llysgennad Ieuenctid yn cefnogi’r Parc Cenedlaethol i ddatblygu polisïau a gweithdrefnau cyfeillgar i bobl ifanc i greu rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc a bydd Cymhorthydd Cefnogi Cyfathrebu yn cefnogi’r Tîm Cyfathrebu i gyflwyno negeseuon allweddol ynghylch y Parc Cenedlaethol a’r prosiectau a’r rhaglenni gwaith craidd rydyn ni’n eu cynnal.

Mae’r rhaglen Kickstart ar gyfer pobl ifanc sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn y tymor hir.  Bydd y chwe swydd gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn derbyn cefnogaeth cyflogadwyedd a llesiant gan Pathways Training yng Ngrŵp Colegau NPTC, a fydd yn cynnwys cefnogaeth a monitro cynnydd gan Swyddog Hyfforddi penodol.

Meddai Stephanie Evans, Cyfarwyddwr Pontio Awdurdod y Parc Cenedlaethol:
“Rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio mewn partneriaeth gyda grŵp NPTC o golegau i gynnig chwe swydd Kickstart i bobl ifanc ar leoliad ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda’n timau profiadol ac yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau a fydd yn eu helpu i gael gwaith yn y dyfodol.  Os oes ots gennych chi am ddyfodol ein hamgylchedd ac am ein Parc Cenedlaethol, pam na ddewch chi i ymuno â ni?”

Meddai Nicola Thronton-Scott Cynorthwyydd Prif Sgiliau yng Ngrŵp Colegau NPTC , “Mae’r Cynllun yn rhoi’r cyfle i unigolion ddysgu sgiliau newydd ac ennill profiad gwaith gwerthfawr yn ystod eu lleoliadau chwe mis, tra, yr un pryd, yn magu brwdfrydedd am y cwmni a’r sector gyfan. Drwy weithio gyda’n gilydd, bydd y Coleg a’r Parc Cenedlaethol yn gwneud yn siŵr fod pob unigolyn yn derbyn rhaglen gynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau a hefyd help i gael swyddi.”

Os ydych chi’n gallu bodloni’r meini prawf o fod rhwng 18 a 24 oed, yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn cael eich cyfeirio gan eich Hyfforddwr Gwaith mewn Canolfan Byd Gwaith a Mwy, ewch ar wefan y Parc Cenedlaethol www.bannaubrycheiniog.org/yr-awdurdod/swyddi-gweigion/ i ymgeisio.

DIWEDD