Prosiectau’r Wardeiniaid

Mae gan y Wardeiniaid rolau amrywiol a bydd pob Warden yn arwain nifer o brosiectau pwysig yn y Parc, o ddiogelu a gwella cynefinoedd i reoli ymwelwyr yn y safleoedd mwyaf poblogaidd. Draw yng ngorllewin y Parc, Wyn Morgan sy’n gyfrifol am reoli’r Mynydd Du ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau pori er mwyn gweithredu prosiectau ymarferol Glastir Uwch, gan gynnwys gosod waliau cerrig sychion, rheoli grug, cadwraeth mawn, cadwraeth henebion cofrestredig a rheoli rhedyn.

Ym Mro’r Sgydau – un o’n hardaloedd prysuraf o ran ymwelwyr – mae Richard Farquhar yn arwain ar Brosiect Bro’r Sgydau ac yn datblygu tîm o wirfoddolwyr yno, ac yn y Gwaith Powdwr Gwn gerllaw.

Mae Sam Ridge yn gofalu am gadwraeth ardal sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r de o Lyn Syfaddan. Mae rhan o’r ardal yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac yn cefnogi amrywiaeth eang o flodau gwylltion  ac yn feithrinfa bwysig iawn ar gyfer y gornchwiglen, y gylfinir a mathau eraill o adar. Mae Sam yn gweithio gyda ffermwyr a CADW er mwyn diogelu a gwella’r fryngaer gofrestredig o’r oes haearn ar yr Allt. Mae mynediad i’r heneb yn haws ers iddo wella arwyneb y llwybrau a lleihau’r gorchudd rhedyn. Mae gwartheg yr ucheldir yn pori’r ardal bellach, ac mae’r rhain yn hapus i gnoi drwy’r llystyfiant garw!

Mae Jon Pimm a Clive Williams yn gweithio gyda Phartneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon ar brosiectau sy’n cynnwys rheoli grug, torri rhedyn, cadwraeth mawn a gwaith ar lwybrau’r ucheldir. Mae partneriaid eraill yn gweithio ar “Hyfforddi Llysgenhadon” ar gyfer darparwyr lletygarwch, prosiectau addysg a lleihau rhedyn.

Bydd ymwelwyr â hen reilffordd Gofilon ger Y Fenni yn cael budd o waith caled Sam Harpur fu’n torri llystyfiant wrth ymyl y llwybrau ac yn eu cadw’n glir ac yn rhwydd mynd iddyn nhw. Mae gan Lein Gofilon arwyneb tarmac, ac mae’n weddol lefel, felly mae’n llwybr sy’n hawdd i’w ddefnyddio.