Carreg Cennen

Mae coetiroedd Carreg Cennen yn ardaloedd pwysig o
goetiroedd hynafol o safbwynt eu hecoleg a’u harchaeoleg. Maent yn amgylchynnu Castell Carreg Cennen yn rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae llawer o’r coetiroedd yn rhannu ffin â Gwarchodfa Natur Leol Carreg
Cennen, ac mae rhan helaeth ohonynt wedi’u pennu’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ardal gyfan yn ardal o ddiddordeb daearegol sylweddol yn sgil bod yn rhan o Geoparc Fforest Fawr, ardal sy’n rhan o Rwydwaith Ewropeaidd o Geoparciau, a derbyniodd statws Geoparc Byd Eang UNESCO yn 2006. Mae’r coetiroedd yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a chant eu rheoli ganddo. Maent yn derbyn nifer uchel o ymwelwyr gydol y flwyddyn gan fod y castell ei hun yn denu llawer o dwristiaid.

Cyflwynwyd cais i ymuno â chynllun  Coetiroedd Gwell i Gymru i’r Comisiwn
Coedwigaeth Cymru yn 2009 ar gyfer llunio cynllun rheoli a chyflawni amcanion hirdymor yn y coetiroedd. Cafodd yr ardal gyfan ei mapio er mwyn dangos y coed sydd yno, eu hamrywiaeth a’u hoedran, ac fe’i defnyddiwyd ar gyfer llunio cynllun gweithredu ar gyfer y pum mlynedd canlynol. Y prif waith a nodwyd oedd cyfyngu ar y pori ar y safle, annog rhagor o adfywio naturiol lle y mae’n bodoli ac ailgyflwyno hen goedlannau mewn system o reoli coetiroedd mewn modd traddodiadol.

I weld copi o’r cynllun mewn PDF cliciwch yma (mewn Saesneg yn unig)