Newid hinsawdd

Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd angen i ni hefyd addasu at newid hinsawdd yn y dyfodol agos. Bydd ein hardaloedd ar yr ucheldir yn hynod agored i niwed, o ystyried eithafion yr hinsawdd a geir yma. Mae ein hamgylchedd naturiol hefyd yn hollbwysig i ddyfodol ffermio a thwristiaeth yn y Parc Cenedlaethol. Cydnabyddir yn eang y rôl bwysig y gall Parciau Cenedlaethol ei chwarae o ran helpu Cymru a’r DU i addasu i’r newid yn yr hinsawdd, er enghraifft, fel ffyrdd o hybu ymatebion integredig i’r newid yn yr hinsawdd a dulliau o’i asesu.

Yn 2004, roedd Ecolegydd y Parc Cenedlaethol wedi ystyried ystod eang o wybodaeth a thystiolaeth am newid hinsawdd. Erbyn hyn, mae trosolwg manwl wedi’i gyhoeddi o’r wybodaeth hon ac effeithiau rhagweledig a phresennol newid hinsawdd ar y byd naturiol – y fioamrywiaeth – ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (dogfen PDF: 239k).

Mae’r adroddiad yn esbonio ystyr newid hinsawdd, yn edrych ar bolisïau cenedlaethol ac yn rhoi sylwadau ar rai o’r materion a godir (er nad yw’r sylwadau hyn o reidrwydd yn adlewyrchu barn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Mae meddalwedd Acrobat Reader ar gael am ddim. Os nad ydych chi wedi’i osod ar eich cyfrifiadur, gallwch ei lawrlwytho o wefan Adobe.

Beth fydd yn digwydd i’r Parc Cenedlaethol?

Gweler hefyd:

Nodyn Gwybodaeth am Newid Hinsawdd ym Mannau Brycheiniog

Datganiad Sefyllfa ar Newid Hinsawdd gan Gymdeithas Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol

Adroddiad byr ar ddyfodol rheoli tir o fewn tirweddau a warchodir, dan y teitl Future Parks in Future Climates – Scalable Solutions

Gwefan Rhaglen Effeithiau Hinsawdd y DU (UKCIP)

Tudalen Adroddiad Arbennig Guardian Unlimited ar Newid yn yr Hinsawdd

Mae gwefan UK Phenology yn darparu gwybodaeth ar galendr o ddigwyddiadau naturiol sy’n newid yn gyson. Gallwch hyd yn oed gymryd rhan eich hun drwy fonitro digwyddiadau lleol i helpu i gael darlun cenedlaethol o i ba raddau mae newid hinsawdd yn effeithio ar natur!!

Gwefan Nature Detective – gwefan NEWYDD ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 4 a 18 oed – yn darparu gwybodaeth a phrosiectau ffenoleg. Ceir deunyddiau addysgol, gweithgareddau a gemau AM DDIM.

Tudalennau gwe Newid Hinsawdd y BBC – yn cynnwys gwybodaeth hawdd ei deall am dystiolaeth, effeithiau, polisïau a bwrdd negeseuon.

Hadley Centre for Climate Prediction & Research – yn cynnwys llawer o wybodaeth am newid hinsawdd yn ogystal â dogfennau ymchwil i chi eu llwytho i lawr.

Beth am gael cip ar fap rhyngweithiol Swyddfa Dywydd y DU i weld yr effeithiau rhagweledig ar amaethyddiaeth, argaeleddd dŵr a lefel y môr petai’r hinsawdd yn newid 4 gradd celsiws.