Cynllun Gwella Hawliau Tramwy 2019 – 2029

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyhoeddu ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy. Y Cynllun yw’r modd y bydd yr Awdurdod yn cynllunio’n strategol ar gyfer rheoli, datblygu, integreiddio a hyrwyddo’r rhwydwaith hawliau tramwy, a thir arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddo o fewn y Parc Cenedlaethol, am y ddeng mlynedd nesaf.

Mae copi of Cynllun ar gael yma.

Cyhoeddodd yr Awdurdod ei Gynllun Gwella Hawliau Tramwy cyntaf yn 2007. Mae copi o’r ddogfen hynny ar gael yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r Cynllun Drafft peidiwch ag oedi i gysylltu gyda’r Awdurdod ar 01874 624437 neu row@beacons-npa.gov.uk

Swyddog Hawliau Tramwy

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP