Beth yw Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol?

Dyma brif swyddogaethau’r cynllun:

  • Sicrhau bod camau lleol ac effeithiol yn cael eu cymryd yn unol â thargedau cenedlaethol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd (a amlygwyd yng Nghynllun Gweithredu’r DU),
  • Amlygu camau er lles rhywogaethau a chynefinoedd a ystyrir yn rhai pwysig yn lleol, ac sy’n adlewyrchu gwerthoedd pobl leol,
  • Datblygu partneriaethau lleol effeithiol,
  • Codi ymwybyddiaeth o’r angen i warchod bioamrywiaeth yn lleol,
  • Sicrhau bod cyfleoedd i warchod a gwella bioamrywiaeth yn ei chyfanrwydd yn cael eu hystyried yn llawn,
  • Amlygu a manteisio’n llawn ar adnoddau lleol i roi’r cynllun ar waith; a 
  • Rhoi sylfaen ar gyfer monitro cynnydd tuag at gyflawni targedau gwarchod bioamrywiaeth.