Galw am arbenigwyr lleol i ail-lunio rhestr y rhywogaethau

Mae BIS wedi gallu cymryd rhestr A.42 ac amlygu’r holl rywogaethau hynny sydd wedi’u cofnodi yn y Parc Cenedlaethol. Mae 201 o’r rhywogaethau hyn wedi’u cofnodi yma mewn dros 12,000 o gofnodion. Fodd bynnag, mae rhai o’r cofnodion hyn yn dyddio’n ôl i’r 90au, yr 80au a hyn yn oed cyn hynny gan olygu nad oes sicrwydd a yw’r rhywogaethau hyn yn y Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd.  

 

Felly, unwaith eto rydym yn gofyn am eich help!

 

Edrychwch ar Rhestr Rhywogaethau A.42 Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Defnyddir gwahanol liwiau ar restr y rhywogaethau. Mae gwyrdd yn dynodi y gwnaed y cofnod diwethaf ar ôl 1/1/2000, melyn ar gyfer cofnod rhwng 1/1/1980 a 31/12/1999 a choch ar gyfer cofnodion cyn 1980. Rydym yn gofyn i’n harbenigwyr lleol (ie, chi!) fwrw golwg ar y rhestr ac ateb 2 gwestiwn cyflym:

  1. Oes gennych chi gofnod mwy diweddar neu’n gwybod am un?
  2. Os ddim, a yw’r rhywogaethau hyn yn parhau i fod yn y Parc Cenedlaethol yn ôl pob tebyg, neu a ydych chi’n credu nad ydynt yma erbyn hyn?

Mae arnom angen ryw syniad a yw’r rhywogaethau wedi diflannu neu heb gael eu cofnodi’n ddigonol.

Anfonwch eich ateb mewn neges e-bost at Gareth Ellis

Yn amlwg, nid yw rhestr Adran 42 yn cynnwys popeth sy’n bwysig i ni’n lleol. Felly, rydym hefyd yn derbyn awgrymiadau gan gofnodwyr am rywogaethau eraill y dylem eu cynnwys yn y cynllun gweithredu fel blaenoriaethau lleol. Yn gyffredinol:

  • Dylai fod cofnod wedi’i gadarnhau o’r rhywogaeth yn y Parc Cenedlaethol yn yr 20 mlynedd ddiwethaf;
  • Dylai fod amrywiaeth gyfyngedig o’r rhywogaeth (o lai na 10 safle mewn rhanbarth biolegol)
  • Dylent fod y tu allan i safleoedd a ddiogelir (e.e. os yw’r rhywogaethau i’w gweld mewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol yn unig, byddant eisoes yn cael eu gwarchod)

Felly, hoffem glywed unrhyw awgrymiadau sydd gennych i wneud yn siŵr ein bod yn gwarchod ein bywyd gwyllt arbennig lleol yn ogystal â’r rhai sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych!