Cofnodwch eich bywyd gwyllt lleol

Nid yw rhywogaethau fel ymlusgiaid, amffibiaid a hyd yn oed glöynnod byw a gwyfynod yn cael eu cofnodi’n llawn o hyd. Felly, mae’n anodd i ni wybod pa mor eang y mae rhai rhywogaethau neu ar ba safleoedd yn y Parc Cenedlaethol y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt.

Os ydych yn mwynhau crwydro o amgylch y Parc Cenedlaethol neu os ydych yn mynd i ardd neu barc lleol lle gallwch gofnodi bywyd gwyllt lleol, gallwch ein helpu drwy roi gwybod i ni beth welwch.

Cewch gofnodi coed hynafol gyda Helfa Goed Hynafol Ymddiriedolaeth y Coedwigoedd.

Oes gennych chi dwmpath o wrtaith? Hwyrach bod dallnadroedd yn byw yno! Cymerwch ran yn arolwg y dallnadroedd.

Ydych chi’n treulio amser ger nentydd neu byllau? Os felly, cadwch lygad am gwas y neidr corff llydan a chadwch gofnod o’r hyn a welwch.

Ydych chi’n gwylio gwenyn yn suo o amgylch y planhigion yn eich gardd? Cofnodwch y gwenyn a welwch a chadwch olwg am “l’abeille” sef math newydd o wenyn o Ffrainc!

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Fioamrywiaeth i gael gwybodaeth fwy cyffredinol am gofnodi rhywogaethau yn y Parc Cenedlaethol.