Ffermio a Dibenion y Parc Cenedlaethol

O gryn dipyn, tir amaethyddol yw’r gyfran fwyaf o arwyneb y tir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae ffermio yn elfen hanfodol yn y ffordd y mae’r dirwedd bresennol a’r llu o rywogaethau ynddo’n cael eu datblygu a’u cynnal. Mae’n rhan annatod o’r diwylliant lleol ac mae’n parhau i wneud cyfraniad pwysig tuag at y gymuned drwy greu incwm a swyddi. Felly, mae’n hanfodol bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.

 

Tirfeddianwyr a ffermwyr unigol sy’n rheoli ac yn berchen ar y rhan fwyaf o’r tir ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Er bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar ran sylweddol o dir, sydd oddeutu 45,000 erw o ran maint, tir comin yw’r rhan fwyaf ohono ac felly mae’r ffordd y caiff ei reoli’n dibynnu ar y bobl gyffredin sydd â hawliau, yn enwedig o safbwynt pori gyda da byw. Felly, mae gan y gymuned ffermio rôl bwysig dros ben os yw harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc am gael eu gwarchod a’u datblygu. Bydd angen cydweithio yn ogystal i alluogi’r cyhoedd i ddeall a mwynhau’r nodweddion arbennig hyn. Dylai’r Awdurdod hefyd gynorthwyo ffermio lle bo modd gan fod dyletswydd arno i feithrin lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau lleol.