Arwain Gweithgareddau ym Mro’r Sgydau

Mae’r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i ddarparwyr gweithgareddau yn hytrach nag ymwelwyr annibynnol. Gall ymwelwyr eraill gael gwybod rhagor am yr ardal yn adran Defnyddio a mwynhau Bro’r Sgydau.

Cerdded ar hyd ceunentydd

Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a nifer o dirfeddianwyr lleol sy’n berchen ar y tir ym Mro’r Sgydau. Er bod cryn dipyn o’r safle’n dir Mynediad Agored, dim ond y cyhoedd sy’n cael mynd yno ar droed ac ni chaniateir gweithgareddau wedi’u trefnu na masnachol o unrhyw fath. Hyd yn oed os nad yw tir preifat wedi’i amgylchynu gan ffens neu wedi’i farcio, nid oes hawl tramwy i’r mannau hyn.

Gall grwpiau wedi’u trefnu gynnal gweithgaredd yn yr ardal drwy ofyn am ganiatâd Cyfoeth Naturiol Cymru drwy gytundeb concordat. Ewch i wefan
SWOAPG  (Grŵp Darparu Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru) am ragor o wybodaeth.

Gan fod rhan helaeth o ardal y ceunentydd wedi’i diogelu gan y gyfraith oherwydd cyflwr a phrinder ei chynefinoedd, rhaid i grwpiau gweithgaredd ddilyn Cod Ymddygiad syml fel eu bod eu hymweliad yn effeithio cyn lleied â phosibl ar yr amgylchedd. Rhaid cydymffurfio â’r Cod i gael mynd i’r safle.

Gwyliwch y fideo isod i weld sut gallwch effeithio cyn lleied â phosibl ar amgylchedd yr ardal:

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan SWOAPG.

Mae llawer o ddarparwyr gweithgareddau’n defnyddio Bro’r Sgydau a gall fod yn hynod brysur ar yr adegau mwyaf poblogaidd. Ystyriwch yn ofalus ble i barcio bysiau, newid o ddillad gwlyb, faint o sŵn rydych yn ei wneud a ble i roi eich sbwriel.

Ogofa

Cewch fynd i Borth yr Ogof o faes parcio Cwm Porth. Mae parcio’n £7 i fysiau mini a £4 i geir. Cewch brynu llyfrynnau ar gyfer bysiau mini ymlaen llaw drwy ffonio’r Parc Cenedlaethol – (01874) 624 437. Mae siop fechan yn y maes parcio sy’n gwerthu byrbrydau a diod ac mae tai bach a chyfleusterau newid sylfaenol yno hefyd.

Dylai arweinwyr y grwpiau gweithgaredd fod yn ymwybodol o’r ddogfen ddiogelwch ganlynol cyn defnyddio’r ogof:

Datganiad Diogelwch Porth yr Ogof

Dringo

Cewch ragor o wybodaeth am ddringo ar y safle hwn drwy ffonio’r Cyfoeth Naturiol Cymru.

Canŵio a Chaiacio

Nid oes unrhyw gytundebau mynediad swyddogol ar gyfer yr ardal hon eto. Mae afonydd yr ardal yn addas ar gyfer padlwyr profiadol yn unig.