Prosiect Rhywogaethau Goresgynnol ‘Goresgynwyr y Parc Cenedlaethol’

Beth yw Rhywogaeth Estron Oresgynnol?

Rhywogaeth sydd wedi’i chyflwyno i’r wlad trwy ymyrraeth gan ddyn (naill ai’n fwriadol neu drwy ddamwain) ers diwedd yr oes iâ ddiwethaf, tua deg mil o flynyddoedd yn ôl, yw rhywogaeth estron oresgynnol (Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr).

Nid yw pob rhywogaeth estron yn achosi problemau. Ond mae rhai ohonynt yn cael effaith negyddol ar ein cefn gwlad, ac fe gaiff y rhain eu hystyried yn rhywogaethau estron goresgynnol (INNS). Mae’r grŵp yma’n cynnwys rhai sy’n hawlio’r penawdau fel clymog Japan sy’n dinistrio palmentydd, Jac y neidiwr sy’n dominyddu glannau afonydd, a’r efwr enfawr all beryglu iechyd.

Pam fod y tair rhywogaeth yma’n broblem?

Mae’r effeithiau niweidiol y gall y tair rhywogaeth yma eu cael yn amrywio. Mae Jac y neidiwr yn disodli ein bywyd gwyllt brodorol, gan arwain at ungnydau trwchus yn tyfu ar hyd yr afon sydd yn aml yn ymledu oddi wrth lannau afonydd. Wrth i’r planhigyn farw’n ôl yn y gaeaf mae’n gadael tir moel ar ei ôl sy’n agored i erydiad. Gall hyn arwain at golli rhannau mawr o lannau’r afon. Mae blodau Jac y neidiwr hefyd yn ddeniadol i wenyn, ac yn eu denu i ffwrdd o rywogaethau brodorol.

Mae clymog Japan yn peri perygl tebyg i lystyfiant brodorol. Mae’n tyfu’n gyflym iawn, hyd at 4cm bob dydd a gall gyrraedd 3 metr o daldra erbyn mis Mehefin. Mae’n mygu’r llystyfiant brodorol oddi tano. Mae clymog hefyd yn marw’n ôl yn y gaeaf gan adael ardaloedd moel ar lannau’r afon. Agwedd arall sy’n peri problem yw y gall dyfu drwy fannau gwan mewn concrit ac asffalt a difrodi adeileddau. Oherwydd y nodwedd hon, gall bresenoldeb clymog ar eiddo rwystro pobl rhag cael morgais.

Cyflwynwyd yr efwr enfawr o Dde-orllewin Asia, ac unwaith eto mae’n tyfu’n gyflym iawn: gall dyfu i hyd at 5 metr o daldra. Mae hwn hefyd yn marw’n ôl yn y gaeaf, gan adael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad. Agwedd mwy cas ar yr efwr enfawr yw ei fod yn cynnwys cemegyn gwenwynig sy’n gwneud croen yn sensitif ac sy’n arwain at bothellu difrifol iawn pan fydd y croen yn agored i olau’r haul.

Beth ydyn ni’n ei wneud am y peth?

Cynhelir ein prosiect rhywogaethau goresgynnol ‘Goresgynwyr y Parc Cenedlaethol’ o 1 Ebrill 2018 tan fis Ionawr 2020. Nod y prosiect yw sefydlu prosiect peilot ar gyfer arolygu a rheoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS) yn nalgylchoedd afon Wysg ac afon Tawe, gan weithio gyda phrosiectau a sefydliadau eraill i ddatblygu dull cydweithredol o weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol. Yn y pen draw, byddwn yn edrych ar sut y gellir rheoli INNS yn yr hirdymor.

Bydd ein prosiect yn mynd i’r afael â’r rhywogaethau hyn lle maen nhw i’w canfod ar dir y Parc Cenedlaethol yn nalgylchoedd afon Wysg ac afon Tawe, gan gynnig cyngor a chymorth i dirfeddianwyr eraill sydd â’r rhywogaethau problemus yma er eu tir: eu helpu i’w hadnabod a rhoi cyngor iddyn nhw ar y dulliau gorau o’u rheoli.

Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid, tirfeddianwyr, gwirfoddolwr ac aelodau’r cyhoedd er mwyn atal y tair rhywogaeth yma rhag ymledu a dinistrio rhywogaethau a bioamrywiaeth.

Beth allwch chi ei wneud i helpu?

Mae rhagnentydd afon Tawe ac afon Wysg yn tarddu yn y Parc Cenedlaethol. O gofio natur oresgynnol y planhigion hyn, a’u gallu i ymledu’n rhwydd ar hyd cyrsiau dŵr, mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda phartneriaid eraill yn yr ardal er mwyn mynd i’r afael â’r planhigion hyn o ddechrau’r dalgylch i lawr mewn modd systematig. Er mwyn gwneud hyn mae angen set dda o ddata sylfaenol er mwyn ceisio creu llun o raddfa’r gwaith sydd ei angen yn nalgylchoedd afon Tawe ac afon Wysg, nid dim ond o gofnodion y rhywogaethau goresgynnol ond hefyd o ardaloedd lle maen nhw wedi eu trin, sut maen nhw wedi eu trin a pha mor llwyddiannus y bu’r ymdrech.

Er mwyn gwneud hyn, rydym angen eich help chi. Oes gennych chi gofnodion diweddar ar gyfer y tair rhywogaeth yma? Ydych chi wedi clirio unrhyw un o’r rhywogaethau yma ar eich rhan chi o’r afon? Ydych chi’n rhan o grŵp gwirfoddoli sydd eisoes yn gwneud y math yma o waith, neu a fyddech chi’n hoffi bod yn rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol? Os felly, cysylltwch.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth ar y prosiect neu i gymryd rhan, cysylltwch â Beverly Lewis. E-bostiwch Beverley.lewis@beacons-npa.gov.uk neu ffoniwch 07854997508.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ar sut i reoli’r tair rhywogaeth yma, yna dilynwch y dolenni isod:

Clymog Japan

Jac y neidiwr

Efwr enfawr