Uwchdiroedd

Mae ardaloedd o uwchdiroedd yn brin yn ne Prydain. Mae Bannau Brycheiniog yn gyswllt pwysig rhwng uwchdiroedd ynysig Dartmoor ac Exmoor yn ne-orllewin Lloegr ac uwchdiroedd helaethach Eryri a gogledd Lloegr.

Mae uwchdiroedd Bannau Brycheiniog yn chwarae rôl bwysig yn dosbarthu dŵr croyw yn Ne Cymru. Mae’r afonydd Wysg, Mynwy, Nedd a Thawe i gyd yn tarddu yng nghynefinoedd uwchdirol Bannau Brycheiniog. Wrth i’r hinsawdd newid, bydd rheoli’r tir hwn yn dyngedfennol wrth bennu a fydd yr afonydd yn gorlifo neu’n sychu.

Am fwy o wybodaeth am gynefinoedd yr uwchdir, gweler Mynyddoedd yng Nghymru.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i ddarganfod mwy am gynefinoedd yr uwchdir yn y Parc Cenedlaethol.