Ystlumod

I gael rhagor o wybodaeth am ystlumod a cheisiadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol, ewch i’r Tudalennau cynllunio ar ystlumod

Corystlumod

Mae tair rhywogaeth o gorystlumod yn y DU ac mae’r ystlumod yn fwyaf tebygol o gael eu gweld mewn ardaloedd trefol, gerddi a pharciau yn ogystal â choetiroedd a gwrychoedd yng nghefn gwlad agored. Mae safleoedd clwydo yn yr haf a safleoedd gaeafgysgu bron bob amser mewn adeiladau. Gellir defnyddio unrhyw adeiladau gan gynwys tai modern lle bydd yr ystlumod bach hyn yn dod o hyd i fannau clwydo y tu ôl i estyll bondo, o dan deils neu’n wir unrhyw fan arall sy’n gynnes ac yn sych.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth a delweddau o Corystlumod ar wefan Arkive.
 
Ystlum Pedol Mwyaf

Mae’r ystlum pedol mwyaf yn un o’r ystlumod mwyaf yn y DU. Yn ystod yr haf, maent yn ffurfio cytrefi mamolaeth, mewn hen adeiladau mawr yn gyffredinol, ac yn chwilota am fwyd ar dir pori, ymylon coetir collddail cymysg a pherthi. Yn y gaeaf, maent yn dibynnu ar ogofâu, mwyngloddiau segur a safleoedd tanddaearol eraill megis selerau.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth a delweddau o Ystlumod Pedol Mwyaf ar wefan Arkive
 
Ystlum Pedol Lleiaf

Mae’r ystlum pedol lleiaf yn un o’r ystlumod lleiaf yn y DU. Maent yn ffafrio cymoedd cysgodol gyda choed collddaill helaeth neu brysgwydd trwchus yn agos at safleoedd clwydo. Lle bo cynefin wedi’i wasgaru, mae nodweddion llinellol megis perthi ac afonydd yn dramwyfeydd pwysig rhwng ardaloedd clwydo a chwilota am fwyd. Yn y gaeaf, maent yn gaeafgysgu mewn ogofâu, mwyngloddiau a mannau eraill sy’n debyg i ogofâu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan CCGC ar Ystlumod Pedol Lleiaf yng Nghymru

Gallwch weld rhagor o wybodaeth a delweddau o’r Ystlum Pedol Lleiaf o wefan Arkive

Y Noctiwl (Ystlum Mawr)

Fel un o’r ystlumod mwyaf ym Mhrydain, mae’r noctiwl yn ehedwr cyflym a phwerus, sydd yn aml i’w weld yn yr agored a chyn i’r haul fachlud gyda’r nos yn ystod yr haf. Yn bur anaml mae i’w weld mewn adeiladau, gan ffafrio clwydo mewn coed. Mae wedi gostwng ar hyd a lled Prydain, oherwydd colli ansawdd perthi a mannau bwydo eraill fwy na thebyg, ond hefyd oherwydd colli coed addas mawr i glwydo ynddynt.

Gallwch weld rhagor o wybodaeth a delweddau o Ystlumod Noctiwl ar wefan Arkive.

 

Ystlumod mewn adeiladau

Mae’n ddigon posibl bod ystlumod yn byw mewn tai yn hollol ddiarwybod i’r perchenogion. Nid ydynt yn achosi unrhyw ddifrod (megis cnoi gwifrau), nid ydynt yn dod â deunydd nythu na bwyd i’r glwyd ac maent yn anifeiliaid glân iawn ar y cyfan. Y prif bryder i berchenogion cartref yw bod yr ystlumod a’u clwydydd wedi’u gwarchod gan y gyfraith ac felly mae’n rhaid bod yn ofalus iawn yn ystod unrhyw waith adeiladu neu gynnal a chadw ar y tŷ megis ailbwyntio, gosod estyll bondo newydd neu unrhyw waith ar ofod y to neu deils y to.

Gallwch lawrlwytho ffeithlen Byw gydag ystlumod gan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am holl rywogaethau ystlumod Prydain o wefan yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o rywogaethau neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.