Y Pathew

I gael rhagor o wybodaeth am y pathew a cheisiadau cynllunio yn y Parc Cenedlaethol, ewch i’r tudalennau cynllunio.

Mae’r pathew’n weithgar yn ystod y nos yn unig a gellir ei weld mewn coetir collddail a pherthi sydd wedi gordyfu. Yn ystod y dydd, mae’n cysgu mewn nyth, mewn cangen goeden wag neu mewn nyth aderyn neu flwch nythu segur. Yn bur anaml y bydd yn dod ar y tir ac yn hytrach na hynny, mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn dringo ymhlith canghennau coed i chwilio am fwyd. Mae’n bwyta amrywiaeth o flodau, paill, ffrwythau a chnau. Mae ar bathewod angen cynefin amrywiol i gynnig yr amrywiaeth hon o fwyd ac maent yn ffafrio coetiroedd sydd wedi’u prysgoedio ac sydd â chanopi dwys i’w galluogi i symud o gwmpas.

Gallant fagu un dorllwyth, neu’n achlysurol, ddwy dorllwyth y flwyddyn, ac mae pob un fel arfer yn cynnwys tua phedwar epil. Mae’r pathewod newydd-anedig yn aros gyda’u mam am rhwng 6 a 8 wythnos cyn dod yn annibynnol. Mae’r tymor bridio a’i lwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth ar y tywydd. Yn ystod y gaeaf, maent yn gaeafgysgu ac nid ydynt yn weithgar eto fel arfer tan fis Ebrill neu fis Mai. Mae pathewod yn byw hyd at bum mlynedd yn y gwyllt, yn hwy o lawer na mamaliaid tebyg bach eraill.

Mae pathewod wedi’u gwarchod o dan gyfreithiau llym ac ni ellir eu lladd yn fwriadol, eu hanafu neu darfu arnynt yn eu nythod, eu casglu, eu maglu neu eu gwerthu ac eithrio o dan drwydded.

Gallwch gael rhagor o gwybodaeth am y pathew ar wefan Cymdeithas y Mamaliaid a nodyn gwybodaeth am bathewod Natural England.

Mae English Nature wedi llunio Handbook for Dormouse Conservation. Sylwer, er bod modd defnyddio’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a geir yn y canllaw hwn yng Nghymru, mae trefniadau trwyddedu’n wahanol.

Cyngor i reolwyr coetir gan y Comisiwn Coedwigaeth ar Rheoli coetir lle mae’r pathew yn bresennol.

Ewch yn ôl i:

Rhywogaethau

Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.