Madfallod Cribog

Mae’r fadfall gribog Triturus cristatus yn cyrraedd oddeutu 17 cm o hyd ac mae ei chroen i’w weld yn arw. Maent yn frown neu’n ddu dros y rhan fwyaf o’u cyrff, gyda phatrwm melyn/oren a du ar eu bol. Mae gan gwrywod llawndwf gribau tolciog ar hyd y corff a’r cynffon. Yn debyg i bob madfall, mae angen cynefinoedd dŵr croyw arnynt megis pyllau dŵr ar gyfer bridio. Caiff wyau eu dodwy fesul un ar lystyfiant mewn pyllau yn y gwanwyn, ac mae larfa’n datblygu dros yr haf i ddeori rhwng mis Awst a mis Hydref, gan gymryd rhwng dwy flynedd a phedair blynedd i aeddfedu. Mae madfallod ifanc yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y tir a gallant deithio cryn bellter o safleoedd bridio.

Pyllau o faint canolig yw safleoedd bridio fel arfer, er y gallai ffosydd a mathau eraill o gyrff dŵr gael eu defnyddio’n llai aml. Maent yn ffafrio pyllau gyda llawer o lystyfiant dyfrol (sy’n cael ei ddefnyddio i ddodwy wyau). Nid oes angen ansawdd dŵr uchel iawn ar fadfallod cribog, ond maent i’w cael yn fwyaf aml mewn pyllau â pH niwtral. Gall pyllau mewn bron i unrhyw gynefin fod yn addas ond y rhai mwyaf cyffredin yw tir fferm, coetir, prysgwydd, a glaswelltir. Mae madfallod cribog i’w cael ar safleoedd trefol, gwledig ac ôl-ddiwydiannol. Mae’r dirwedd gyfagos yn bwysig iawn, gan fod madfallod cribog i’w cael yn aml lle bo clwstwr o byllau. Gall llwybrau sy’n cysylltu’r pyllau hyn, megis perthi, fod yn bwysig iawn, felly hefyd, mae safleoedd gaeafgysgu mewn pentyrrau boncyffion, waliau cerrig ac mewn coetiroedd.

Mae’r fadfall gribog wedi’i diogelu’n gyfreithiol gan gyfreithiau’r DU ac Ewrop erbyn hyn. I gael gwybodaeth am madfallod a cheisiadau cynllunio, gweler y tudalennau cynllunio.

Mae Grŵp Amffibiaid ac Ymlusgiaid Brycheiniog a Maesyfed (BRARG) yn grŵp lleol o wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn gwarchod pob ymlusgiad ac amffibiad. I gael rhagor o wybodaeth am y grŵp, ewch i wefan BRARG.
 
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio rhywogaethau eraill yn y Parc Cenedlaethol neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol