Brith y Gors

Mae ar frith y gors angen ardaloedd o laswelltir llaith â thwmpathau glaswellt a chyrs lle mae bara’r cythraul hefyd, sef y planhigyn y mae lindys yn ei fwyta. Ar ddiwedd yr haf, mae’r lindys yn gwneud gweoedd yn y twmpathau glaswellt hyn ac maent yn dibynnu ar laswelltir nad yw wedi’i bori’n rhy fyr. Nid yw niferoedd brithion y gors byth yn gyson; bydd digonedd ohonynt ar safle rai blynyddoedd ond ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, bydd ond ychydig iawn ohonynt i’w cael. Maent yn dibynnu’n llwyr ar gael nifer o safleoedd glaswelltir addas yn yr ardal leol fel y gall y lindlys llawndwf symud o safle i safle wrth i’w niferoedd newid ac wrth iddynt geisio osgoi ysglyfaethwyr. Mae un o’r prif ardaloedd hyn i’w cael o amgylch Penderyn yn ne’r Parc Cenedlaethol.

Darllenwch fwy am Brith y Gors ar wefan ar wefan Butterfly Conservation.

 
Darllenwch fwy am Reoli Safleoedd ar gyfer Brith y Gors ar wefan Butterfly Conservation.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o rywogaethau yn y Parc Cenedlaethol neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.