Rhywogaethau gwlyptir

Mae Telor y Dŵr yn ymwelydd mudol prin, sy’n cael ei weld yn amlach ar hyd arfordiroedd de Lloegr. Yn y Parc Cenedlaethol,  gellir ei weld weithiau ar hyd ymylon Llyn Syfaddan.

Darllenwch fwy am Telor y Dŵr ar wefan yr RSPB.

Er bod Bras y Cyrs bob amser i’w cael ar welyau cyrs, mae wedi lledaenu’n ddiweddarach i amrywiaeth o gynefinoedd a gellid eu gweld unrhyw le yn y parc. Fodd bynnag, rydych yn dal i fod yn fwyaf tebygol o’u gweld ar y gwelyau cyrs o amgylch cronfeydd dŵr a llynnoedd, lle mae’n codi ac yn gwibio rhwng cyrs a phrysgwydd.

Darllenwch fwy am Bras y Cyrs ar wefan yr RSPB.

Mae Herlod a Gwangod yn aelodau o deulu’r pennog ac maent ymhlith y pysgod mwyaf pren yn y DU. Maent yn tyfu ac yn byw mewn dyfroedd arfordirol bas ac aberoedd ond maent yn teithio i fyny’r afon i fannau claddu wyau sy’n gannoedd o ffilltiroedd i fyny’r afon, yn aml. Mae Afon Wysg yn un o’r ychydig fannau claddu wyau sydd ar ôl yn y DU gan ei bod yn cynnwys y gwelyau gro sydd eu hangen arnynt i gladdu wyau ac mae’r afon yn rhydd o rwystrau megis argloddiau a choredau sy’n atal pysgod rhag teithio i fyny’r afon. Caiff yr wyau eu rhyddhau i’r dŵr lle maent yn setlo a bydd y pysgod llawndwf yn marw ar ôl claddu wyau. Afonydd yng Nghymru yw’r unig le erbyn hynny, lle mae’r pysgog hyn yn claddu wyau o blith unrhyw le yn y DU.

Darllenwch fwy am yr Herlyn ar wefan JNCC.

Darllenwch fwy am y Gwangen ar wefan JNCC.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio mwy o gynefinoedd gwlyptir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.