Pyllau

Mae pyllau’n rhan bwysig o’n tirwedd ac maent yn hollbwysig i lawer o rywogaethau. Mae pryfed megis gweision y neidr a chlêr Mai yn ddibynnol ar byllau gan fod eu larfâu yn gwbl ddyfrol. Gall pob rhywogaeth ffafrio math gwahanol o bwll ac felly mae cael llawer o byllau wedi’u gwasgaru ar draws y tir yn hollbwysig fel y gall pob rhywogaeth ddod o hyd i bwll sy’n bodloni eu hanghenion. Mae pyllau hefyd yn hanfodol i bob amffibiad sydd angen pyllau ar gyfer bridio. Bydd anifeiliaid eraill, megis moch daear, yn ymweld â phwll i yfed, tra bod nadredd y glaswellt yn nofwyr ardderchog ac yn hela llyffantod a madfallod y dŵr ymhlith planhigion y dŵr.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd gwlyptir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.