Gwelyau cyrs

Mae gwelyau cyrs i’w cael ar hyd ymylon afonydd lle bo’r llif yn arafach ond maent i’w cael yn helaeth ar ardaloedd dŵr llonydd megis llynnoedd a chronfeydd dŵr. Ymyl ddeheuol Llyn Syfaddan sydd â’r gwelyau cyrs mwyaf helaeth yn y Parc Cenedlaethol ac mae’n gartref pwysig i lawer o rywogaethau nad ydynt i’w cael yn unman arall yn yr ardal. Mae gwelyau cyrs bron bob amser i’w cael gyda chynefinoedd gwlyptir eraill megis rhostir pori a choetir gwlyb. Mae’r rhan fwyaf o welyau cyrs yn y DU yn fach ond gallant gynnwys cannoedd o rywogaethau gwahanol yn enwedig adar ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Mae’r gwelyau cyrs yn Llyn Syfaddan yn gartref i’r chwilen cyrs deuliw, sef pryfyn dyfrol bach sydd ond i’w gael ar gyrs masgl pigog canghennog. Bu’r chwilen hon yn fwy helaeth yn flaenorol ond mae wedi diflannu o lawer o safleoedd yn ystod y ganrif ddiwethaf. Credid ei bod wedi darfod o’r tir yng Nghymru, gan fod yr achos diwethaf wedi’i gofnodi dros 50 mlynedd yn ôl ar safle ger Castell-nedd. Yn 2006, fe’i darganfuwyd am y tro cyntaf yn Llyn Syfaddan a dyma unig safle hysbys y chwilen yng Nghymru erbyn hyn.

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd gwlyptir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol