Cyforgorsydd

Mae’r mawn sy’n cronni yn achosi i arwyneb y ffos godi gan fod y dŵr yn atal llystyfiant marw rhag pydru’n gyfan gwbl. Mae cyforgorsydd yn brin iawn yn y DU erbyn hyn, er bod hinsawdd wlyb, oer Cymru (sy’n helpu i fawn ffurfio) yn golygu bod gan Gymru rai o’r corsydd gorau sy’n bodoli. Maent wedi cael eu draenio ar gyfer tir fferm, neu mae’r mawn wedi cael ei gloddio i’w ddefnyddio fel tanwydd neu ar gyfer compost.

Ar Draeth Mawr ger Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol, mae gweithgarwch dynol wedi newid y gors ond mae darnau bach yn parhau o hyd yn ffurfio ponciau o fwsoglau corsydd ymhlith cymysgedd o gynefinoedd ffeniau. Mae’r cymysgedd hwn o gynefinoedd gwahanol mewn lleoliad bach yn eithaf unigryw ac nid oes unrhyw safleoedd eraill yn debyg i Draeth Mawr yng Nghymru.
 
Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd gwlyptir eraill neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.