Glaswelltiroedd Asid Tir Isel

Mae diffyg dŵr a maetholion wedi annog datblygu cymuned o rywogaethau sy’n gallu ymdopi â’r amodau hyn. Yn ystod yr haf, gall y tir ddod yn sych, gan leihau gorchudd glaswellt a chan greu ardaloedd o dir llwm. Gall y darnau llwm hyn fod yn bwysig iawn i nifer o bryfed gan eu bod yn cynhesu’n gyflym yn yr haul. Mae ardaloedd llwm hefyd yn rhoi’r cyfle i blanhigion syml megis cennau gael y cyfle i dyfu ymhlith glaswelltiroedd a fyddai fel arall yn eu llethu.

Yn y tiroedd isel, mae’r cynefin hwn yn brin erbyn hyn gan ei fod wedi diflannu oherwydd gwelliannau amaethyddol. Mae glaswelltiroedd asidig i’w cael ar draws y tiroedd uchel ond maent yn wlypach yn aml ac yn enghreifftiau diraddedig o gynefinoedd megis gorgors a rhostir uchel.

Mae glaswelltiroedd asid tir isel i’w cael ynghyd â rhostir isel yn aml gan ffurfio mosaig o ardal laswellt a rhostir. Cânt eu rheoli fel porfa fel arfer.

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd glaswelltir a thir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.