Dolydd

Gall y math hwn o fflora ymddangos mewn llawer o ardaloedd glaswellt niwtral gan gynnwys y rhan fwyaf o ardaloedd glaswelltir niwtral heb eu gwella ar diroedd isel. Ni chaiff ei gyfyngu i diroedd glaswellt sy’n cael eu torri ar gyfer gwair, mae hefyd yn cynnwys porfeydd niwtral heb eu gwella lle mai porfeydd ar gyfer da byw yw’r prif ddefnydd tir. Ar lawer o ffermydd, mae defnyddio caeau penodol ar gyfer tir pori a chnydio gwair yn newid dros amser ond mae cymunedau’r planhigion yn parhau gyda mân-newidiadau yn unig gan ddibynnu ar ba blanhigion y mae’r rheolwyr tir cyfredol yn eu ffafrio.

Mewn lleoliadau anamaethyddol, mae glaswelltiroedd fel y rhain yn llai cyffredin ond mae enghreifftiau ychwanegol i’w cael ar safleoedd hamdden, mynwentydd, lleiniau ymyl y ffordd, ac amrywiol ardaloedd eraill.

Mae’r datblygiad diweddar i dorri silwair yn hytrach na gwair ac i ychwanegu gwrtaith at dir pori wedi arwain at golli’r math hwn o fflora dôl. Mae silwair yn fwyd sy’n llawn ynni i dda byw ond mae’r torri cynnar yn atal llawer o flodau gwyllt rhag hadu’n briodol, sy’n cael sgil-effaith ar bryfed, adar a mamaliaid.

Mae’n bosib bod dolydd i’w gweld o hyd o amgylch tyddynnod bach gan eu bod wedi’u lleoli ger adeiladau fferm yn aml, a oedd yn ei gwneud yn haws hel a chadw’r cnwd gwair.

Am ragor o wybodaeth, gweler:

Llyfrgell ar-lein Floralocale

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd glaswelltir a thir fferm drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith.