Calchbalmentydd

Mae haenen denau o galchfaen yn rhan deheol y Parc sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin. Mewn mannau, caiff y calchfaen hwn ei ddinoethi ar yr wyneb, yn enwedig ar dir uwch. Mae hyn yn ffurfio rhwydwaith o balmentydd bach, gwasgaredig sy’n ymestyn dim mwy na thua 20 hectar. Mae llawer o’r palmentydd hyn wedi’u difrodi wrth i flociau carreg, a elwir yn glintiau, gael eu symud. Fodd bynnag, nid yw rhai wedi cael eu dinoethi fel hyn neu efallai eu bod wedi cael eu difrodi amser maith yn ôl.

Mae’r holltau tenau’n cynnig cysgod a diogelwch i blanhigion megis llawredynen y calchfaen a llysiau Robert. Mae’r blodau ar y palmentydd a’r glaswelltiroedd cyfagos yn denu llawer o bryfed hedfan, tra bo’r creigiau eu hunain sy’n dal yr haul, yn denu madfallod cyffredin a dallnadroedd.

Lle nad yw’r palmentydd wedi cael eu pori, mae coetir wedi datblygu drostynt. Mae’r palmentydd coediog hyn hefyd yn bwysig i famaliaid bach, tra bo’r cysgod a’r creigiau noeth yn annog cennau a mwsoglau i dyfu.

Am ragor o wybodaeth gweler:

Cadwraeth Calchbalmentydd

Defnyddiwch y bar gwe-lywio ar y chwith i archwilio cynefinoedd creigiog eraill.