Rhywogaethau Coetir

Mae Morgrugyn y Goeden Goch yn adeiladu twmpathau mawr mewn coetiroedd collddaill i ffurfio’r nyth ar gyfer y gytref. Gall y morgrug fod â hyd o 1cm ac maent yn gigysol, yn hela pryfed eraill. Nid oed mewn ychydig o goetir heb ei gyffwrdd yn y Parc Cenedlaethol y maent i’w cael ac maent yn ffafrio llenyrch agored fel bod modd i dwmpath y nyth ddal yr haul a chadw’r morgrug yn gynnes ac yn weithgar.

Darganfuwyd y gwyfyn crych tonnog ar safle yn y Parc Cenedlaethol am y tro cyntaf mewn mwy na 70 mlynedd. Mae lindys y gwyfyn bach hwn yn bwyta gwern, bedw a helyg ac mae’r rhan fwyaf ohonynt i’w cael mewn coetiroedd llaith sydd wedi’u prysgoedio.

Gallwch lawrlwytho’r ffeithlen am y Gwyfyn Crych Tonnog gan Butterfly Conservation.

Y Gnocell Fraith Leiaf yw’r lleiaf o dri chnocell y coed yng Nghymru a hwn yw’r prinnaf hefyd. Mae’n fach, yn dawel ac yn wibiog ac mae i’w weld yn rhannu uchaf canopi’r coetir, yn chwilio am bryfed, neu’n drymio’n feddal ar goeden.

Darllenwch fwy am y Cnocell Fraith Leiaf ar wefan yr RSPB.

Mae’r Gwybedog Mannog yn cyrraedd y DU ym mis Mai ac mae i’w weld ar hyd ymylon coetiroedd yn aml lle mae’n aros am bryfed sy’n mynd heibio cyn hedfan allan i’w hysbeilio. Mae ei niferoedd wedi lleihau’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn, yn bur anaml y caiff ei weld yn y Parc Cenedlaethol

Darllenwch fwy am y Gwybedog Mannog ar wefan yr RSPB.