Coetiroedd collddail cynhenid

Mae llawer o’r coetir yn gymysgedd o Dderwen ac Onnen ac yn aml, mae collen, draenen wen a rhywogaethau cynhenid eraill yn ffurfio haenen is o dan ganopi coed mwy o faint.

Mae llawer o goetiroedd yn bodoli erbyn hyn fel lleiniau bach gyda chaeau agored o’u hamgylch. Yn aml, gweddillion coetiroedd mwy o lawer yw’r rhain ac maent yn bwysig iawn gan eu bod yn cynnig camau i alluogi mwy o rywogaethau i symud ar draws cefn gwlad. Lle bo coetiroedd i’w cael ar lethrau rhigolau neu nentydd, mae’n bosibl y byddant wedi bodoli yno am gannoedd o flynyddoedd gan nad oedd byth yn bosibl ffermio’r ardaloedd anhygyrch hyn.

Mae pobl wedi rheoli bron pob un o’r coetiroedd sydd ar ôl. Roedd yr ardaloedd coetir hyn yn arfer bod yn rhan hanfodol o bob fferm gan eu bod yn darparu pren ar gyfer ffensys, coed tân a defnyddiau eraill. Mewn llawer o achosion, prysgoedio oedd yr enw ar y dull rheoli hwn – sef yr arfer o dorri’r goeden i lawr ond yn caniatáu i’r boncyff dyfu blagur newydd. Roedd hyn yn cynhyrchu cnwd adnewyddadwy o bren ac roedd modd torri’r pren ar ôl iddo gyrraedd y maint cywir ar gyfer ei ddefnydd bwriedig. Collen a gâi ei phrysgoedio gan amlaf ac mae bonion prysgoedio o gyll i’w cael yn y rhan fwyaf o goetiroedd o amgylch y Parc Cenedlaethol.

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd coetir drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl i Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol