Coetir Gwlyb

Mae coetiroedd gwlyb yn bwysig i nifer o rywogaethau gan fod anifeiliaid a phlanhigion coetiroedd a gwlyptiroedd i’w cael yma. Byddai coetiroedd gwlyb yn datblygu yn aml pan oedd eginblanhigion coed yn gwreiddio mewn cynefinoedd eraill megis ffeniau a gwelyau cyrs. Dros amser, roedd y coed yn aeddfedu ac yn cysgodi planhigion eraill yn cynnig mwy o gysgod a gorchudd na chynefinoedd agored.

Mae gwlyptiroedd ar eu mwyaf gwerthfawr i fywyd gwyllt pan fydd nifer o fathau o gynefin i’w cael gyda’i gilydd ac mae lleiniau bach o goetir gwlyb a phrysgwydd yn ychwanegiad hollbwysig at unrhyw wlyptir. Gan fod y cynefinoedd agored hyn, megis ffeniau a gwelyau cyrs, yn werthfawr yn eu rhinwedd eu hunain, yn aml, mae’n angenrheidiol rheoli lledaenu coetir gwlyb drwy gael gwared ar rai coed yn ddetholus, ond gan gadw digon i ddiwallu anghenion rhai rhywogaethau.

Gallwch archwilio mwy o gynefinoedd coetir drwy ddefnyddio’r bar gwe-lywio ar y chwith neu ewch yn ôl Bioamrywiaeth yn y Parc Cenedlaethol.