Coetiroedd

Mae coetiroedd yn gynefinoedd sy’n naturiol gysgodol a llaith, ac sydd â digon o orchudd a bwyd ar gael. Dyma sy’n eu gwneud yn bwysig i nifer o rywogaethau. Gan mai dyma ein cynefin helaethaf, mae nifer o rywogaethau brodorol yn ddibynnol ar goetiroedd am o leiaf ran o’r flwyddyn.

Mae amrywiaeth o wahanol goetiroedd yn y Parc Cenedlaethol, yn dibynnu ar y math o bridd, draeniad ac uchder. O fewn pob coetir, bydd oedran y coed a strwythur y canopi yn amrywio. Mae rhodfeydd a llennyrch agored, y pren marw o goed sydd wedi disgyn, a charped trwchus o flodau’r gwanwyn i gyd yn elfennau allweddol mewn unrhyw goetir.

Gall gwaith i wella coetiroedd gael ei ariannu gan Gynllun Grant Coetiroedd Gwell i Gymru.

Mae cyngor ar reoli coetiroedd yn gynaliadwy ar gael gan Coed Cymru.

Gweler hefyd wefan Coed Cadw am wybodaeth ddefnyddiol ar goetiroedd a sut i’w rheoli.

Defnyddiwch y bar llywio ar y chwith i archwilio gwahanol gynefinoedd coetir.